Comisiynau Dyfodoliaeth Llawrydd C&A (Cymraeg)
Beth yw ystyr y gair cymuned?
Gall y gymuned yr anelir eich prosiect ati i gyd fod yn llawryddion celfyddydol, neu rai sy’n gweithio mewn diwydiant penodol, neu rai o ddemograffig penodol neu sy’n rhannu rhyw agwedd o’u hunaniaeth. Neu gall fod yn groestoriad o ddiwydiant, lleoliad, a hunaniaeth.
Beth yw “angen” – ac a oes raid ei brofi trwy gyfrwng data? A fyddwch chi’n gofyn am amcangyfrif o sawl person fydd yn elwa, a sut y bydd hyn yn digwydd?
Rydym yn ymddiried ynoch chi i wybod ac i ddweud wrthym beth yw’r anawsterau sy’n bodoli yn eich cymuned chi. Ni fyddwn yn gofyn i chi gynnal arolwg na throsglwyddo data – gwyddom fod y gymuned lawrydd eisoes wedi ei than-ymchwilio, felly byddai’n annheg i ofyn hyn. Rydym yn ymddiried ynoch chi fel llawryddion, sy’n arbenigwyr ar eich bywydau a’ch cymunedau eich hunain, i wybod beth yw’r problemau sydd angen eu datrys.
Rydym yn chwilio am brosiectau all redeg yn gynaliadwy ac a gaiff effaith yn y tymor hir. Rydym felly’n gochel rhag y syniad po fwyaf o bobl y gellir eu “cael drwy ddrws” y prosiect, po fwyaf o werth y mae’n ei gynnig. Yn hytrach, rydym yn chwilio am brosiectau all dyfu gyda’u cymunedau. Byddai’n well gennym gefnogi prosiect sydd, ar y dechrau, yn ymddangos fel pe bai’n bur gyfyngedig, ond a chanddo lawer o botensial i barhau a thyfu, yn hytrach na phrosiect fydd yn ymestyn yn bell ond na fydd modd ei redeg eto. Hefyd, dy’n ni ddim am or-lethu’r llawryddion sy’n adeiladu’r prosiectau hyn. Hoffem glywed gennych pwy y byddwch yn effeithio arnynt, sut y byddwch yn gwneud hynny, a sut y gallai’r prosiect dyfu ac addasu yn y dyfodol.
Beth fyddwch chi’n ei ofyn i ni pan ddaw cefnogaeth LlCC i’r prosiect i ben?
Byddwn ni’n atebol i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein grant, felly byddai’n wych pe gallech gysylltu â ni ar ddiwedd y prosiect i ddweud sut roedd pethau wedi mynd. Byddwn yn gofyn am drosolwg o’r prosiect – beth oedd wedi llwyddo, a gafwyd unrhyw anawsterau, a beth yr hoffech ei weld gan LlCC pe byddem yn rhedeg y grant yma eto. (Dyna rydyn ni’n
gobeithio ei wneud.) Byddwn hefyd yn cysylltu â chi ar adegau drwy gydol y prosiect.
Rydym am gydnabod mai ein nod yw bod y prosiectau hyn yn para am gyfnod hir a’u bod yn gynaliadwy, ond mae hynny’n cymryd amser. O ran y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn ym mis Awst, ni fwriedir y rhain fel barn ar werth y prosiectau, nac fel awgrym y gellir asesu holl effeithiau’r prosiectau hyn yn llwyr ar yr adeg honno. Y gobaith yw y bydd eich cymuned yn gweld effaith crychdonni’r prosiectau hyn ymhell ar ôl mis Awst. Wrth i’ch prosiect ddatblygu y tu hwnt i fis Awst, hoffem glywed am unrhyw ddiweddariadau os dymunwch eu rhannu gyda ni neu’r gymuned LlCC – byddai hyn nid yn unig yn rhoi pleser mawr i’n tîm, ond hefyd yn ei gwneud yn haws i ni ymgeisio am gyllid i redeg rhagor o grantiau tebyg yn y dyfodol.
Ymhle y gall y gweithgaredd ddigwydd? Ymhle na chaiff e ddigwydd?
Dylai’r gweithgaredd gefnogi llawryddion celfyddydol yng Nghymru, ond gellir ei gyflenwi mewn dulliau sy’n gweithio orau ar gyfer eich prosiect chi. Gall y prosiect weithredu’n gyfan gwbl ar-lein, mewn un lleoliad yn unig, neu mewn sawl lleoliad gwahanol – cyn belled â’i fod yn canolbwyntio ar gefnogi eich cymuned lawrydd yng Nghymru, byddai croeso i chi gyflwyno cais am Grant Dyfodoliaeth Llawrydd.
A all LlCC helpu i hyrwyddo’r prosiectau a ddewisir?
Gallwn, fe allwn hyrwyddo’r prosiectau trwy gyfrwng ein cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr ni, a rhai ein partneriaid, a gallwn awgrymu adnoddau marchnata. Os teimlwch y gallai fod arnoch angen mwy o gymorth hyrwyddo na hyn, efallai y dylech ystyried ychwanegu marchnata ar eich cyllideb.
Oes yna unrhyw ganllawiau ynghylch pa offer y gellir ei brynu ar gyfer y prosiect?
Nac oes. Rydym yn ymddiried ynoch chi i ofyn am yr hyn sydd ei angen. Cyn belled â’i fod yn rhesymol, ac y bydd yn fanteisiol i gymuned o lawryddion, rydym yn agored i ystyried ariannu offer.
Sut mae’r gronfa hygyrchedd yn gweithio?
Mae’r gronfa hygyrchedd ar eich cyfer chi a hwyluswyr eraill eich prosiect (h.y. llawryddion eraill y byddwch yn eu cyflogi i gyflenwi’r prosiect). Ar hyn o bryd, mae’r gyllideb fesul prosiect rhwng £1500 a £2000, ond gan na fydd ar rai prosiectau angen cymaint â hyn gallwn drafod gyda chi os bydd eich prosiect o bosib angen mwy o arian. Mae wedi ei bwriadu ar gyfer anghenion mynediad sy’n benodol berthnasol i anabledd a salwch.
Yn anffodus, nid yw’r gronfa mynediad hon ar gael i gyfranogwyr eich prosiect, dim ond y rhai sy’n ymwneud â’i adeiladu. Dyna’r modd y mae’r arian a dderbyniwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi ei strwythuro. Rhaid i gostau mynediad ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan ddod allan o brif gyllideb y prosiect.
Ydy arian ar gyfer dwyieithrwydd yn cael ei ystyried fel “mynediad”?
Nac ydy, yn anffodus – nid yw cyfieithu i’r Gymraeg yn rhan o’r gyllideb mynediad, a dylai ddod o’r brif gyllideb.
Oes gennych chi gyfraddau tâl a argymhellir ar gyfer llawryddion?
Fel arfer, mae aelodau o dîm LlCC, a’r rhai rydym yn eu cyflogi, yn gweithio am gyfradd ddydd (8 awr) o £200 neu £25 yr awr.
Beth yw amserlen y prosiect?
Gallwn ymrwymo i gefnogi’r prosiectau mewn modd rhagweithiol hyd fis Awst, pan fyddwn ni fel LlCC yn dechrau ein cyfnod o werthuso ar gyfer ein cyllid ein hunain. Byddai’n dda petai’r prosiectau’n para y tu hwnt i’r pwynt yma (a byddem yn annog hynny!), ond byddem yn llai abl i gefnogi’r prosiectau hyn.
Beth yw’r gwahanol ddulliau posibl o gyflwyno cais?
Gallwch ymgeisio trwy ddefnyddio ffurflenni Google yn Gymraeg neu Saesneg, neu gyflwyno recordiad sain neu fideo lle rydych yn ateb y cwestiynau ar Google Drive, WeTransfer neu Dropbox. Os byddwch yn dewis y dull hwn, gofynnir i chi anfon eich cais at hello@cfw.wales, gan ddefnyddio’r teitl “CAIS COMISIYNAU DYFODOLIAETH LLAWRYDD”. Mae’r cwestiynau ar gael mewn dogfen Word i hwyluso’r dull hwn o ymgeisio.
A oes modd iddo fod yn rhan o brosiect mwy o faint?
Oes. Gadewch i ni wybod yn eich cais – mae yna ofod lle gallwch ddisgrifio dulliau eraill o ariannu y gallech fod yn ymgeisio amdanynt neu rai rydych eisoes wedi eu derbyn.
A oes modd iddo fod yn ddigwyddiad (e.e. digwyddiad blynyddol)?
Oes, cyn belled â bod gennych gynllun fydd yn esbonio sut y bydd dyfodol cynaliadwy (h.y. y bydd yn ail-ddigwydd) neu effaith barhaus i hyn.
A oes modd i’r prosiect ymchwilio i broblem, a beth sydd angen ei wneud yn ei
chylch, yn hytrach na bod yn ateb llawn a pharod?
Oes, os mai dyna beth sydd ei angen. Un o’r pethau cyntaf yr aeth LlCC i’r afael ag ef pan sefydlwyd ni oedd y diffyg difrifol o ddata, ac mae hynny’n un o’r problemau y buom yn ceisio’i datrys. Rydym yn parhau i ymchwilio – felly edrychwch allan am ein trydydd prosiect ymchwil yn ddiweddarach y flwyddyn hon! Rydym yn hynod ymwybodol mai ymchwil yw’r angen pennaf ar adegau, a byddai prosiect ymchwil hefyd yn ateb ein gobaith y gall y prosiectau hyn fod yn gynaliadwy neu greu newid parhaus – bydd ymchwil yn parhau, a gellir adeiladu arno.