Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol

10 Rhaglen datblygiad PROFFESIYNOL AM DDIM ar gyfer llawryddion

 

Cliciwch yma ar gyfer recordiad sain o’r alwad yma. Sgroliwch lawr ar gyfer fideos BSL. Gadewch i ni wybod os oes angen y gwybodaeth yma arnoch mewn unrhyw ffurf arall.
Click for English.

Mae’r prosiect yma wedi cau ar gyfer ymgeiswyr erbyn hyn.

Rydym yn gweithio gyda Chelfyddydau & Busnes Cymru i gynnig 10 rhaglen Datblygiad Proffesiynol i lawryddion celfyddydol Cymraeg neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Gallech ddewis o’r ddwy raglen ganlynol: 

Banc Sgiliau: yn cydweddu arbenigedd rheolwyr busnes ag anghenion penodol unigolion. Drwy leoliadau tymor byr, rhan amser, trosglwyddir sgiliau’r ymgynghorydd i weithwyr llawrydd yn y sector greadigol, gan helpu mewn maes penodol fel cynllunio busnes, marchnata, cyllid neu Technoleg Gwybodaeth.

Banc Mentora:  yn helpu unigolion sy’n gweithio yn y sector greadigol i ddatblygu i’w potensial llawn. Yn canolbwyntio ar anghenion datblygu’r unigolyn, mae’r mentor yn gweithredu fel seinfwrdd gwerthfawr sy’n magu hyder.

Os fyddwch yn llwyddiannus bydd Celfyddydau & Busnes Cymru yn cyfweld a chi er mwyn asesu eich anghenion a dechrau’r broses o gydlynnu person busnes priodol i weithio gyda chi.

Yn dibynnu ar gyfyngiadau Covid ac eich gofynion hygyrch mi all y cyfweliad yma a gweddill y broses digwydd mewn person neu ar zoom. 

Anfonwch eich ffurflen gais i hello@cfw.wales gyda Datblygiad Proffesiynol yn y llinell pwnc.

Mi fyddwn yn gadael i bob ymgeisydd wybod statws eu cais erbyn y 14eg o Fehefin.