Llwyddiant, Sicrwydd a Chefnogaeth Beth mae ar y Llawryddion Celfyddydol yng Nghymru ei Angen Llawryddion Celfyddydol Cymru Adroddiad Arolwg 2023 Jenny Mathiasson ________________ Cynnwys Cynnwys 1 Prif Ganfyddiadau 2 Cyflwyniad 4 Am yr astudiaeth 4 Methodoleg 4 Am yr awdur 5 Gyda diolch 5 Pwy yw’r llawryddion celfyddydol yng Nghymru? 6 Oedran a heneiddio 6 Lleoliad llawryddion yng Nghymru 9 Lleoliadau cleientiaid llawryddion 11 Rhywedd 14 Yr Iaith Gymraeg 17 Llawryddion Anabl, B/byddar a Niwroamrywiol 20 Ethnigrwydd 22 Dosbarth 23 Hyd a math y Gyrfaoedd 25 Materion ariannol a’r argyfwng costau byw 28 Gwaith a rhagolygon 34 Effaith Brexit 40 Casgliadau ac argymhellion 43 ATODIAD 49 Sefydliadau i’w dathlu 49 ________________ Prif Ganfyddiadau Gan ddilyn ymlaen o’r ymchwil a wnaed yn 2020 a 2021, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar beth yw sefyllfa llawryddion yng Nghymru erbyn hyn: maent wedi wynebu pandemig, Brexit, ac argyfwng costau byw parhaus. Dyma ein canfyddiadau: * Mae’r rhan fwyaf o’r llawryddion celfyddydol yn debygol o fyw yn ne Cymru (roedd un o bob pump o’r ymatebwyr yn byw yng Nghaerdydd) lle mae cyfleoedd yn fwy niferus * Roedd 60% o’r gwaith llawrydd celfyddydol wedi ei gomisiynu, neu wedi digwydd yng Nghymru ei hun, ac roedd awydd cryf i gynyddu’r ffigur hwnnw * Roedd y rhan fwyaf o’r llawryddion celfyddydol yn yr ystod oedran 35–64 a chanddynt gryn brofiad yn y sector (10+ mlynedd) * Roedd 23% o’r llawryddion celfyddydol yn eu diffinio eu hunain fel anabl, b/Byddar, a/neu niwroamrywiol * Roedd dwywaith cymaint o lawryddion yn dysgu Cymraeg o’u cymharu â 2020, a tua 60% yn siarad rhyw lefel o Gymraeg * Mae un o bob pedwar o’r llawryddion yn dal yn ansicr a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio, ac roedd eu hanner wedi gweld gostyngiad yn y gwaith y gallent ei gael * Mae 71% o’r llawryddion yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth yn y sector celfyddydol, ac roedd llawer yn galw am fwy o ddealltwriaeth ac empathi gan sefydliadau a chleientiau * Yn achos hanner yr holl lawryddion, ni fyddent yn gallu talu eu costau am dri mis trwy ddefnyddio’u cynilion, gan danlinellu’r ansicrwydd ariannol yn y sector * Mae Brexit wedi gadael llawryddion gyda llai o gyfleoedd, llai o arian a mwy o drafferth. Y rhai sydd ag angen y mwyaf o gymorth yw llawryddion: * sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio * sy’n diffinio eu hunain fel anabl, b/Byddar, a/neu niwroamrywiol * o gefndiroedd dosbarth gweithiol * mewn ardaloedd gwledig * o’r Mwyafrif Byd-eang * sy’n heneiddio Mae amlygu’r anghenion hyn yn rhoi syniad i sefydliadau, cyrff cyllido, a chyd-lawryddion o’r hyn sydd ei angen ar lawryddion i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth, a’u bod yn abl i barhau i weithio yn y sector celfyddydol. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn sylfaen i’r gwaith polisi a gwneud penderfyniadau yn y sector celfyddydol yng Nghymru wrth symud ymlaen. Heb wneud unrhyw newid, rydym mewn perygl dybryd o golli ein gweithlu llawrydd, ond gyda’n gilydd gallwn greu diwydiant cryfach, mwy caredig, a thecach i bawb. ________________ Cyflwyniad Am yr astudiaeth Gan ddilyn yn ôl traed ein hadroddiad yr oedd galw mawr amdano yn 2020, (‘Ailfantoli ac Ailddychmygu’) a’r dilyniant yn 2021 (‘Ar Lwybr Adferiad?’), aethom ati unwaith eto i wneud arolwg o dirlun y llawryddion celfyddydol yng Nghymru. Ein nod oedd dysgu mwy am ddemograffeg ein llawryddion ac archwilio profiadau a phersbectifau eu proffesiwn yn 2023. Mae’r tudalennau sy’n dilyn yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd o’r Arolwg i Lawryddion. Mae’n rhoi ciplun o’r gweithlu, ei wytnwch, a’i bryderon. Mae Llawryddion Celfyddydol Cymru (LlCC) yn gasgliad amrywiol o lawryddion celfyddydol yng Nghymru; maent yn grymuso’r llais llawrydd a chynnig cymorth cynhwysol i gyd-lawryddion. Mae LlCC yn gwbl ddwyieithog ac yn gweithredu ym mhob cwr o Gymru. Ac yntau’n bodoli ers mis Ebrill 2020 (yn wreiddiol fel Tasglu Llawrydd Cymru), mae LlCC wedi cael cymorth gan sawl rownd o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r grant Cysylltu a Ffynnu. Ein partneriaid yw Celfyddydau a Busnes Cymru, Disability Arts Cymru, People Make It Work, a Race Council Cymru. Gallwch ddod o hyd i’n hadroddiadau blaenorol, a fersiynau eraill o’r adroddiad cyfredol hwn, ar ein gwefan: https://cfw.wales/index.php/report2023/ Methodoleg Roedd yr arolwg ar agor drwy gydol mis Gorffennaf 2023, a derbyniwyd 184 o ymatebion (12 yn Gymraeg a 172 yn Saesneg). Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein drwy ffurflen yn ogystal â fformat testun plaen, ac roedd ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Cymraeg llafar, Saesneg llafar, ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Am yr awdur Mae Jenny Mathiasson (hi/nhw), sydd wedi ei lleoli yng ngorllewin Cymru, yn gweithio’n llawrydd fel cadwraethydd, ymgynghorydd, darlunydd, a phodlediwr. Bu’n gweithio’n llawrydd yn y sector celfyddydol am dros 15 mlynedd, ac mae hi’n llais arweiniol yn y diwydiant ym maes cadwraeth treftadaeth. Mae’n aelod o’r Institute of Conservation, Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, a’r Museums Association. Roedd hi’n un o’r hwyluswyr craidd gyda Llawryddion Celfyddydol Cymru yn ystod y cyfnod ariannu 2022–2023. Gyda diolch Mae’r diolch mwyaf yn mynd i bawb a gymerodd amser i gwblhau ein harolwg 2023, ynghyd â phawb fu’n ein helpu i’w ddosbarthu a’i hyrwyddo. Diolch o galon hefyd i Krystal Lowe, Becky Johnson, Angharad Davies, a Dr Jeremy Huw Williams am eu mewnbwn yn ystod cyfnod cynllunio’r arolwg. Diolch pellach i Dr Jeremy Huw Williams, Stephanie Roberts, Morgan Fox, Michael Rizzotti, Dr Ruwani Fernando, Matthew Lloyd-Strahan, Ross Graham, a Becky Johnson am eu cymorth a’u cyfraniadau i’r adroddiad terfynol. ________________ Pwy yw’r llawryddion celfyddydol yng Nghymru? Oedran a heneiddio Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn hŷn nag yn y ddau arolwg blaenorol, ond roedd yna gynrychiolaeth o bob grŵp oedran. Roedd y rhan fwyaf o’r llawryddion (77%) rhwng 35 a 64 mlwydd oed. Ffigur 1: Oedran ymatebwyr yr arolwg (2020–2023). Roedd oedran yn thema amlwg yn yr arolwg eleni: teimlai rhai llawryddion fod heneiddio’n golygu nad oeddynt yn ‘ticio’r bocsys cywir’ neu na allent gael digon o waith i fyw arno wrth iddynt symud tuag at yr oedran ymddeol confensiynol. “Ageism is rife.” “The arts appear to only be for people under 40 around here.” “I’ve been in the industry for over 30 years but bullying has taken its toll.” Dywedodd pobl eu bod yn teimlo’n llai ‘defnyddiol’ wrth iddynt heneiddio, a ‘waeth i ni heb â mynd i’r drafferth’ pan yn gwneud cais am gronfeydd ariannol a chomisiynau. Soniwyd hefyd am deimladau o fod yn amherthnasol, blinder, teimlo ar goll, a ‘phorthgadw’. Mae hyn yn adleisio’r drafodaeth ddiweddar ynghylch oedraniaeth yn The Big Freelancer Survey 2023 o Freelancers Make Theatre Work.[1] Teimlai rhai llawryddion eu bod yn cael eu ‘tynnu tuag at hyfforddi’ neu addysgu fel ffordd o drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth, yn enwedig wrth i bryderon gynyddu ynghylch iechyd corfforol. “I'm getting older and dance is physically demanding.” Roedd yna hefyd bryderon ynghylch materion ariannol. “I am 60 with no private pension, some savings but not much, no secure income streams.” Mae poblogaeth a gweithlu[2] Cymru’n heneiddio, ac yn 2022 oedran cyfartalog person llawrydd yn y DU oedd 48 mlwydd.[3] Er nad oes rhif tebyg yn bodoli ar gyfer Cymru, mae hyn yn rhoi syniad i ni o broffil oedran llawryddion yn fwy cyffredinol. Ar draws y DU, mae hanner y boblogaeth sy’n hunan-gyflogedig yn yr ystod oedran 40–59.³ Er bod heneiddio’n cael ei weld fel rhwystr i lwyddiant yn yr ystod oedran 45–65, ymddengys nad yw’r sefyllfa’n ddim gwell yn y pegwn arall: teimlai llawryddion iau hefyd eu bod yn brin o waith, cymorth a chysondeb – pwyntiau a godwyd yn aml gan lawryddion hŷn. Roedd y teimlad hwn yn arbennig o gryf yn yr ardaloedd mwy gwledig, a hynny ymhlith yr iau a’r hŷn fel ei gilydd. Nid yw’n glir a yw’r niferoedd is o ymatebwyr dan 35 oed – a than 25 yn enwedig – yn dod o ganlyniad i’r sianeli dosbarthu a’r dulliau marchnata a ddefnyddiwyd i hyrwyddo’r arolwg, neu a yw hyn yn ffurfio tuedd go iawn. Mae angen mwy o ymchwil i ddeall proffil llawryddion iau yn y maes celfyddydol, pa rwystrau y gallent fod yn eu hwynebu, a sut y maent yn dod o hyd i lwybrau i mewn i’r maes. ________________ Lleoliad llawryddion yng Nghymru Roedd ymatebwyr yr arolwg yn dod o ardal ddaearyddol eang iawn, ac yn cynrychioli’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol a phob sir ledled y wlad. Daeth 55% o’r ymatebion o dde Cymru, 28% o ganolbarth a gorllewin Cymru, ac 17% o ogledd Cymru.[4] I bwrpas cyd-destun a chymhariaeth, roedd 21% o’n hymatebwyr yn byw yng Nghaerdydd yn benodol. Tabl 1: Lleoliad ymatebwyr yr arolwg ar gyfer pob un o’n harolygon. Mae’r trionglau’n nodi a yw’r rhif hwn wedi mynd i fyny neu i lawr ers y prosiect ymchwil blaenorol. Roedd tua 37% o’r llawryddion celfyddydol a ymatebodd i’r arolwg yn byw mewn ardaloedd gwledig o Gymru.[5] Roedd yr ymatebwyr o ardaloedd gwledig yn fwyaf tebygol o weithio yn y meysydd hyn: Cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio (37%), y Celfyddydau Gweledol (28%), a Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth (24%). Mynegodd llawryddion mewn ardaloedd gwledig eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu diystyru; atgoffwyd ni ‘nad yw Cymru’n gorffen yn Abertawe neu Gaerdydd’ a ‘bod gan y cymoedd fwy i’w gynnig na hen byllau’ o ran treftadaeth a diwylliant byw. Tynnwyd sylw at gysylltiadau trafnidiaeth a disgwyliadau teithio gan lawryddion ledled Cymru, o ardaloedd gwledig ac fel arall. “Working in and from rural Wales has meant a life on the road. As cuts have bitten, my location has precluded me from a lot of work. The artists in rural areas are not supported. Most cultural life is about urban living. This has an impact on how/what our culture is and can be.” “I gained extra remote work for a while but with the return to the office and hybrid, location is again limiting opportunities with companies wanting freelancers to be available to work onsite. Commuting to London isn’t viable for me (expensive and exhausting).” Ffigur 2: Ardaloedd daearyddol yr ymatebion. Po dywyllaf y lliw, po fwyaf o ymatebion a dderbyniwyd o’r ardal honno. Amcangyfrif yw’r sgwigls gan fod y map wedi ei greu ar sail ardaloedd cod post. ________________ Lleoliadau cleientiaid llawryddion Ar gyfartaledd, nododd ymatebwyr fod 60% o’u gwaith yn cael ei gomisiynu, neu’n digwydd, yng Nghymru. Roedd yna amrywiaeth eang ar draws gwahanol ddisgyblaethau, ac mae angen gwneud mwy o ymchwil i weld ym mha leoliadau daearyddol mae llawryddion Cymru’n gwneud eu gwaith. Ffigur 3: Y lleoliadau ble mae llawryddion yng Nghymru’n ymgymryd â’r rhan fwyaf o’u gwaith (ar gyfartaledd ar draws pob sector). Dywedodd 20% o’r ymatebwyr wrthym fod y cyfan o’u gwaith wedi ei leoli yng Nghymru. Roedd y rhai a ddywedodd wrthym fod eu holl waith wedi ei leoli’n gyfan gwbl yng Nghymru yn fwyaf tebygol o weithio yn y sectorau a welir yn Ffigur 4. Roedd ‘Arall’ yn cynnwys amrywiaeth o ymatebion, o dwristiaeth ac iechyd i ymarferion celfyddydol cymunedol a chyfranogol. Yn y categori hwn roedd yna ffocws amlwg ar waith yn cael ei yrru gan y gymuned, sy’n ei fenthyg ei hun yn fwy i waith lleol a rhanbarthol. Ffigur 4: Cynrychiolaeth gyfrannol o’r sectorau sy’n gweithio’n gyfan gwbl yng Nghymru (20% o’r ymatebwyr). Po fwyaf y cylch, po uchaf y nifer o lawryddion a nododd eu bod yn cael gwaith yng Nghymru’n unig. Roedd tua 30% o’r llawryddion yn cael y rhan fwyaf o’u gwaith o ardaloedd eraill yn y DU, gyda dim ond dau ymatebydd yn nodi eu bod yn gweithio y tu allan i Gymru yn unig. Roedd y llawryddion oedd yn cael y rhan fwyaf o’u gwaith o fannau eraill yn y DU yn fwyaf tebygol o fod yn gweithio yn y meysydd hyn: Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio a Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth. Roedd grŵp bychan iawn (7%) yn gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith llawrydd yn rhyngwladol. Roedd y llawryddion yn y grŵp hwn yn fwyaf tebygol o weithio ym meysydd y Celfyddydau gweledol a Hysbysebu a marchnata. Yn aml, roedd llawryddion yn awyddus i weithio mwy yng Nghymru, ond yn teimlo nad oedd y gwaith ar gael yno: “I want to work only in Wales but there aren’t enough opportunities.” “Amser peidio penodi bobl o tu allan i Gymru heb wybodaeth o'r wlad a'i diwylliant i swyddi amlwg sydd angen y wybodaeth hyny.” “I have had to go outside of Wales for commissions whereas pre-pandemic I worked almost exclusively in Wales, the domestic funding and opportunities have diminished notably.” “Lack of support and opportunity in Wales, will seek elsewhere.” ________________ Rhywedd Roedd 56% o’r ymatebwyr yn eu disgrifio eu hunain fel benywaidd, a 40% fel gwrywaidd. Roedd 4% yn eu disgrifio eu hunain fel anneuaidd neu arall. O’u cymharu ag arolygon 2020 a 2021, mae hyn yn dangos gostyngiad bychan yn y nifer o ymatebwyr gwrywaidd a chynnydd bychan yn y nifer o lawryddion benywaidd ac anneuaidd. Ffigur 5: Incwm cymharol gwrywod/menywod. Mewn cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol, roedd incwm wedi ei ddosrannu ychydig yn fwy cyfartal, gyda dynion a menywod ar gyfartaledd yn ennill yn yr ystod £5,001–£20,000. Roedd menywod yn parhau i fod yn debygol o ennill ar ben isaf y raddfa, a dynion yn llawer mwy tebygol o ennill mwy na £40,000 y flwyddyn. Nid oes gennym ddigon o ddata i wneud dadansoddiad pendant o’r bwlch rhywedd, ond mae yna fwlch sylweddol yn y lefelau uwchben £20,000 y flwyddyn. Yn y cyfamser, roedd yr ymatebwyr anneuaidd i gyd yn gyson yn ennill dan £15,000 (£5,000–£10,000 ar gyfartaledd), er y gellid esbonio hynny’n rhannol oherwydd bod mwyafrif y llawryddion anneuaidd a ymatebodd i’r arolwg yn tueddu i fod yn iau (dan 35 oed) ac yn fwy newydd i’r maes llawrydd. Dywedodd 43% nad oeddynt wedi gweithio’n llawrydd cyn y pandemig. Ffigur 6: Trosolwg cymharol o ba sectorau roedd ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd yn fwyaf tebygol o weithio ynddynt. Fel y gwelir uchod, roedd ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd yn fwyaf tebygol o weithio ym maes Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio. Roedd dynion rywfaint yn fwy tebygol o weithio’n llawrydd ym meysydd Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth. Roedd menywod ychydig yn fwy tebygol o weithio yn y Celfyddydau gweledol. Ymatebwyr gwrywaidd yn unig a nododd eu bod yn gweithio’n llawrydd ym meysydd Pensaernïaeth a Thechnoleg Gwybodaeth, meddalwedd, gemau fideo, a gwasanaethau cyfrifiadurol, ond roedd y niferoedd hynny’n isel. Roedd ymatebwyr anneuaidd yn gweithio’n llawrydd ar draws y sector. Lleisiodd rhai llawryddion benywaidd eu pryderon ynghylch rhagfarn rhyw yn y sector cerddoriaeth: “My line of work is very male biased, all companies I work for have male bosses and working as a female conductor is still regarded as unusual. I am still 'assistant' in many freelance roles, despite my age and experience and good reputation. I am convinced that if I was male this would not be the case.” Mae gwaith ansicr yn dal i fod yn debygol o daro llawryddion benywaidd ac anneuaidd yn galetach na’u cyfoedion gwrywaidd: mae’r ddau grŵp yn nodi cynilion sy’n sylweddol is (20% yn is ar gyfer menywod a 50% yn is ar gyfer llawryddion anneuaidd) a byddent yn cael anhawster i dalu biliau, rhent a/neu forgais petai’r gwaith yn dod i ben. ________________ Yr Iaith Gymraeg Mae Cymru’n genedl a chanddi dair iaith swyddogol – Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain.[6] Rydym bob amser yn cynnig ein harolwg yn Gymraeg a Saesneg mewn gwahanol fformatau. Roedd 7% o’r ymatebion a ddychwelwyd yn Gymraeg (o’i gymharu â 5% yn 2021 a 18% yn 2020). Yn yr arolwg eleni roeddem wedi dewis gofyn cwestiwn gwahanol ynghylch y defnydd o’r iaith Gymraeg, sef a oedd ymatebwyr yn siarad dim Cymraeg o gwbl, yn dysgu Cymraeg, neu’n siarad Cymraeg yn rhugl. Roedd hyn yn cyfyngu ar yr ymatebion posibl gan bobl a deimlai eu bod yn siarad Cymraeg sylfaenol, ond nad oeddynt yn weithredol fel dysgwyr, fel a amlygwyd gan un ymatebydd: “A large range of people (like myself) who were at school in the 1970s speak some Welsh but are neither fluent nor actively learning.” Ffigur 7: Gorolwg o’r wybodaeth o’r iaith Gymraeg ymhlith y llawryddion celfyddydol a ymatebodd i’r arolwg 2020–2023. Mae Ffigur 7 ar y dudalen flaenorol yn archwilio sut mae’r defnydd o’r iaith Gymraeg wedi newid ymhlith ymatebwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gydnabod y gwahanol arlliwiau o ‘ddysgu Cymraeg’ – ni ellir cymharu Cymraeg llafar, sylfaenol a rhugl yn uniongyrchol, ond maent yn mynegi pethau pwysig ynghylch y defnydd o’r Gymraeg ymhlith llawryddion celfyddydol. Er bod y gyfran o bobl nad ydynt yn siarad unrhyw Gymraeg wedi cynyddu (o 29% yn 2020 i 40% yn 2023), mae’n galonogol gweld bod y nifer o ddysgwyr Cymraeg wedi dyblu ers 2020. Mae rhifau diweddar yn awgrymu bod tua 17% o’r boblogaeth waith yng Nghymru’n siarad Cymraeg[7] ac mae hyn yn cyd-fynd yn dda â’r 19% o siaradwyr Cymraeg rhugl a ymatebodd i’n harolwg. Os cynhwysir dysgwyr Cymraeg yn y nifer hwn, mae 60% o lawryddion celfyddydol Cymru’n siarad rhyw lefel o Gymraeg. Roedd llawryddion benywaidd ac anneuaidd yn fwy tebygol o fod yn dysgu Cymraeg na dynion. Roedd ymatebwyr yn ystyried bod siarad Cymraeg yn fantais: “Gallu siarad Cymraeg yn gwneud byd o wahaniaeth i y gwaith dwi yn medru cael – dylse Careers Wales ddathlu hyn mwy i blant a phobl ifanc.” Mynegodd llawer o’r llawryddion oedd naill ai wrthi’n dysgu Cymraeg, neu’n awyddus i ddysgu’r iaith, fod arnynt angen mwy o gefnogaeth a chyfleoedd: “Subsidies (including living allowance) for total immersion Welsh language learning would be a massive benefit.” “A need for more access to Welsh language projects for Welsh learners.” Roedd dysgu Cymraeg hefyd yn cael ei weld fel cryn rwystr. Roedd llawryddion nad Cymraeg na Saesneg oedd eu hiaith gyntaf yn nodi bod eu dwyieithrwydd/ amlieithrwydd yn aml yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu’n amherthnasol, gan o bosibl fwydo teimladau nad oedd croeso i amlddiwylliannedd yn y sector celfyddydol nac yng Nghymru’n fwy cyffredinol. “As an immigrant from another country who is working long days to try and sustain a career, there also is a growing pressure to find the time to learn Welsh. Many producers are looking to increase their Welsh speaking creative teams to meet perceived [...] targets. [...] I 100% agree that the resurgence of the Welsh language is important and to be celebrated, but as someone not raised in Wales and who has almost no free time due to work for even hobbies, it is starting to feel like another barrier to having a freelance career in Wales.” Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050[8] ac mae llawryddion yn amlwg yn awyddus i ddysgu: ond mae cost ynghlwm wrth hyn, ac mae o bosibl yn anghynhwysol os na allwn fynd i’r afael â’r pryderon yma. ________________ Llawryddion Anabl, B/byddar a Niwroamrywiol Roedd 23% o’r ymatebwyr yn eu diffinio eu hunain fel anabl, B/byddar a/neu niwroamrywiol, gan ddefnyddio’r model cymdeithasol o anabledd,[9] gyda 4% ychwanegol yn ansicr. Roedd hyn yn wahanol i’n hymchwil blaenorol lle holwyd llawryddion am y diffiniad mwy clinigol o anabledd (yn 2021 roedd hynny’n effeithio ar 17% o’r ymatebwyr). Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 21% o’r boblogaeth[10] ledled Cymru yn eu diffinio eu hunain fel anabl. Roedd yr ymatebwyr yn gweithio ar draws pob sector, ond yn ffurfio cyfran ychydig yn llai o’r llawryddion sy’n gweithio yn y Celfyddydau gweledol (20%), Technoleg Gwybodaeth, meddalwedd, gemau fideo, a gwasanaethau cyfrifiadol (19%), ac Amgueddfeydd, orielau, treftadaeth, a llyfrgelloedd (19%). Gall hyn awgrymu bod y meysydd yma’n llai hygyrch, ond mae’r amrywiadau mor fach fel y byddai angen gwneud rhagor o ymchwil. Roedd llawryddion anabl, B/byddar a niwroamrywiol yn fwy tebygol o brofi caledi ariannol, a chanddynt lefel isel o gynilion (byddai 69% ohonynt yn methu talu eu ffordd am dri mis petai eu gwaith yn dod i ben yn annisgwyl) ac roeddynt yn gyson yn nodi diffyg rhwydi diogelwch ariannol (e.e. tâl salwch) fel rhwystr. Roedd llawryddion yn galw am ragor o gymorth, cyfeirio, a gwell dealltwriaeth gan sefydliadau sy’n ein cyflogi: “There's not enough support for disabled and neurodivergent creatives – I feel that as a younger person coming into the industry now realising I'm disabled, I struggle to access (or know where to access) support for applications/forms, as well as struggle to find the finances to find those folks.” “There needs to be more understanding about freelancers and no two freelancers being the same. I have often heard large organisations say to me ‘well our last freelancer could do X, Y and Z’ – this competitive and derogatory statement doesn’t make us want to work with you, instead makes us resent you.” Teimlai rhai llawryddion dan bwysau i sôn am rwystrau: “I do not always talk about my barriers, I tend to shy away from using them as a means of discussion, and at the moment I feel like I should be doing that, even when I do not want to or feel that I need to.” ________________ Ethnigrwydd Roedd 6% o’r ymatebwyr yn Ddu, Asiaidd, a/neu o gefndiroedd amlethnig/ ethnigrwydd cymysg (o’u cymharu â 7% yn 2021 a 5% yn 2020), sy’n cymharu’n fras â phoblogaeth Cymru ar hyn o bryd.[11] Nododd mwy na hanner (55%) y llawryddion hyn fod eu gwaith wedi cynyddu, ac roedd gan 80% ohonynt gynilion a allai eu helpu i oroesi cyfnod gwael. Fodd bynnag, roedd aelodau o’r Mwyafrif Byd-eang ddwywaith yn fwy tebygol o ennill llai o arian na llawryddion gwyn ar draws y rhan fwyaf o’r bandiau cyflog. Nododd llawryddion o’r Mwyafrif Byd-eang eu bod yn fwy tebygol o aros yn y diwydiant (89%) ond teimlai pawb nad oeddynt yn cael digon o gefnogaeth yn y diwydiant celfyddydol. Roedd Brexit wedi cael effaith sylweddol ar waith hanner y llawryddion hyn. Derbyniwyd nifer o sylwadau gan lawryddion Gwyn yn mynegi ‘pryder’ ynghylch ariannu, a phrosiectau’n cael eu clustnodi i gefnogi llawryddion o’r Mwyafrif Byd-eang a grwpiau eraill dan anfantais. Er ein bod yn cydnabod y rhwystredigaeth o gystadlu am lai o arian, ni ellir datrys hyn trwy allgáu lleiafrifoedd: mae amrywiaeth a chynhwysiant yn cyfoethogi gwaith llawrydd a’r sector celfyddydol. Mae’r diwydiant yn gyffredinol eisoes yn gogwyddo’n drwm o blaid llawryddion gwyn sy’n aml yn dod o gefndiroedd breintiedig.[12] Ni all hyn barhau. Mae Llawryddion Celfyddydol Cymru’n gwbl gefnogol i weithredu positif[13] ac arferion cynhwysol. Mae’r rhain yn greiddiol i’n gwerthoedd ni fel sefydliad. Dosbarth Roeddem yn awyddus i wybod mwy am dirlun cymdeithasol-economaidd y sector celfyddydol yng Nghymru: er mwyn osgoi tueddiadau cynhenid ac anghysur yng nghyd-destun hunan-ddiffinio fel person o ddosbarth penodol, holwyd ymatebwyr ynghylch gwaith prif enillydd cyflog eu cartref pan oeddynt hwy’n 14 mlwydd oed,[14] ac aethom ati i ddadansoddi’r canlyniadau: Ffigur 8: Cefndiroedd yr ymatebwyr yn seiliedig ar waith prif enillydd cyflog eu cartref pan oeddynt hwy’n 14 mlwydd oed. Daw mwyafrif y llawryddion celfyddydol yng Nghymru o Gefndir Proffesiynol (47%). Deuai 17% o’r ymatebwyr o’r hyn a elwid yn Gefndir Canolradd. Deuai rhyw draean (31%) o’r llawryddion o Gefndir Dosbarth Gweithiol – thema a amlygwyd yn gryf yn adran sylwadau testun-rhydd yr arolwg. “Poverty and lower socio-economic background is still a huge hindrance.” “Being working class means I can’t afford to have time off between jobs, meaning I never get a break and it’s exhausting.” “I feel I see more people from more advantageous backgrounds getting roles, opportunities or excel faster in the industry.” “As a working-class queer person, I've struggled to work as a freelancer full-time. I have come across many barriers in many directions that have limited my ability to work and have considered packing it in several times due to the lack of opportunities I have access to.” Roedd llawryddion o’r Dosbarth Gweithiol fel arfer wedi gweld gostyngiad yn y gwaith oedd ar gael iddynt, a hwy oedd y lleiaf tebygol o fod yn dysgu Cymraeg gan sôn yn aml am ddiffyg amser y tu allan i’r gwaith. Byddai 65% yn cael anhawster i dalu eu rhent/morgais a biliau petai eu gwaith yn dod i ben – nodwyd niferoedd tebyg (64%) ymhlith llawryddion o Gefndir Canolradd. Yn y pen draw, llawryddion o Gefndiroedd Proffesiynol oedd yr unig rai a ddangosodd wytnwch ariannol yn nhermau cynilion (nododd 54% y gallent dalu eu costau am gyfnod o dri mis). Hwy hefyd oedd y mwyaf tebygol o fod yn awyddus i aros yn y diwydiant. Hyd a math y Gyrfaoedd Mae mwyafrif yr ymatebwyr yn parhau i fod yn y cyfnod canol-diwedd eu gyrfa, a chanddynt brofiad gwaith sylweddol sy’n cyd-fynd â’n canfyddiadau blaenorol. Ffigur 9: Am ba hyd mae ymatebwyr wedi bod yn gweithio’n llawrydd yn y maes celfyddydol (cymhariaeth 2020–2023). Nododd 57% o’r ymatebwyr eu bod yn gweithio mewn un sector yn unig (gweler Ffigur 10 am drosolwg o’r sectorau a gynrychiolir ar draws y tirlun celfyddydol yng Nghymru); roedd gweithio ar draws dau sector neu ragor yn dal i fod yn gyffredin iawn, gan amlygu’r duedd barhaus tuag at gael gyrfa amrywiol yn seiliedig ar bortffolio. Gofynnwyd i lawryddion nodi eu dewis o deitl swydd yn yr arolwg hwn (“Disgrifiwch eich swydd mewn 1–2 gair”), a derbyniwyd mwy nag 85 o wahanol deitlau swyddi hunan-adnabod. Ar y dde mae rhestr o’r 10 swydd mwyaf cyffredin a nodwyd. Ffigur 10: Y sectorau roedd yr ymatebwyr yn gweithio ynddynt yn ôl amlder yn 2023. Mae’r categori ‘Arall’, pan yn trafod y sectorau o fewn y celfyddydau, mor amrywiol ag y mae ei enw’n awgrymu: roedd y grŵp hwn yn cynnwys ffurfiau celfyddydol hynod arbenigol, gofal iechyd, disgyblaethau cymunedol neu gyfranogol, twristiaeth, cynaliadwyedd, perchnogion busnesau bach, addysg/dysgu/ymgysylltu, a llawryddion y trydydd sector (i enwi ond ychydig). Yn nhermau statws cyflogaeth, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn hunan- gyflogedig (69%) neu’n gyfuniad o hunan-gyflogedig a chyflogedig (27%). Roedd nifer fechan (2%) wedi ymddeol. Nododd llawryddion fod eu statws cyflogaeth deuol yn angenrheidiol os am oroesi: “I work full-time in an unrelated field. The vast majority of my income comes from this. My freelance role is a side gig / hobby.” “I work PAYE to support my largely underpaid freelance work.” “The majority of my income comes from a ‘day job’ in the education sector. I don’t currently feel like I can be resilient relying only on freelance work.” “My survival as a freelancer depends on being able to take on corporate (i.e. non-creative) work as well. The creative work I do as a freelancer is precarious. It is up and down, but I'm only able to stay there because there are other things I can do.” “I have set up a [limited] company in a different field and am working towards leaving the creative industries in the next two years, as I can't afford to keep doing what I am doing. It is exhausting having to do so much more work just to stay afloat.” Ffigur 11: Statws cyflogaeth yr ymatebwyr (cymhariaeth 2020–2023). Dengys ffigurau diweddar o’r Musicians’ Census fod ychwanegu at incwm yn y dulliau a nodwyd gan lawryddion uchod yn gyffredin[15] iawn, ac er nad yw’r ffigurau hynny’n dod o Gymru’n unig mae hon yn broblem sy’n effeithio ar lawryddion creadigol a chelfyddydol ledled Prydain. Mewn dogfen a luniwyd yn ddiweddar gan Gyngor Celfyddydau Cymru,[16] nodwyd fod 40% o’r bobl sy’n gweithio yn sector y celfyddydau yn cynllunio i chwilio am waith ychwanegol y tu allan i’r sector er mwyn ennill digon o arian i fyw arno. ________________ Materion ariannol a’r argyfwng costau byw Y lefel incwm blynyddol mwyaf cyffredin ar gyfer person llawrydd yn ymateb i’r arolwg oedd £5,001–£10,000, sy’n is nag yn ein hymchwil blaenorol. Dilynwyd hyn yn agos iawn gan yr ystod £15,001–£20,000, gan awgrymu bod y cyfartaledd yn gorwedd yn rhywle rhwng y rhain. Roedd incwm 57% o’r ymatebwyr yn is na £20,000 (63% yn 2021 a 61% yn 2020). Dywedir mai’r incwm cyfartalog yng Nghymru yn 2022 oedd £33,900,[17] gan roi arwydd i ni fod llawryddion celfyddydol yn ennill o leiaf 40% yn is na hynny. Mae’n werth nodi ein bod wedi holi ynghylch incwm llawryddion yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol, sy’n debygol o fod yn is o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, ond pan gynhaliwyd yr arolwg roedd y flwyddyn hon yn debygol iawn o fod y flwyddyn ddiweddaraf pryd roedd gan bobl gyfrifon llawn heb orfod amcangyfrif. Ffigur 12: Dadansoddiad o enillion llawryddion celfyddydol yn ystod y flwyddyn dreth 2020–2021. Ar gyfartaledd, roedd yr ystodau incwm ar eu hisaf ym meysydd hysbysebu a marchnata, ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth, a cherddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio. Roedd llawryddion yng ngogledd Cymru ychydig yn llai tebygol o ennill £20,000 a mwy. Sylwadau llawryddion sy’n rhoi’r darlun gorau o’r tirlun cyfredol yn 2003: “If I'd stayed in teaching I would now be earning approx £44K compared to my approx £20K as what is seen as a very successful freelancer in my field.” “Theatre designers are still grossly underpaid for their time (most established professionals are earning well under minimum wage) and no effort is being made by the industry to either reduce the required hours or increase those fees. It is an unsustainable career financially, mentally, and artistically and serious action is needed. My earnings last year appear well as a number, but it meant working 14+ hour days, often 7 days a week to balance all of those projects and deliver enough work to have some financial stability.” “I will need to supplement my income with a part time job to afford my bills soon.” “I'm a single parent, and I'm struggling to earn enough to live on, let alone save. All the jobs I take on inevitably require far more work that we are contracted to do ... even if they are paid well. I want to be able to afford normal things, like to go on holiday, to not worry about car maintenance, to upkeep my home. At the moment, I can't do this – I am hand to mouth. But I'm not sure what else I can do, if I'm not working in the arts ... I've been in the industry for 25 years and am very experienced ... but as a freelancer I am worried about the work drying up.” “Currently owed money from [the] publisher because of two delayed books due to [COVID-19]. They've been pushed back until Easter 2024; this would give me a year's worth of funds to live off whilst working on other projects. However, such is the state of the economy and finance will probably have to downsize.” “It may be that I need to diversify a part of my work to another sector and remain part time in culture.” “Not enough understanding among salaried staff of what is a fair pay rate for freelancers, and not enough supportive working practices.” “Cultural attitudes to freelancers in the arts are still based around 'doing it for love' and that is a challenge to realistic income.” “I've had to radically revise my expectations of how much I might earn from freelance work.” “Producers and hiring staff need to get a clearer understanding about the costs of being a freelancer and stop trying to offer stupidly low rates.” “Freelancers are the first cost to cut in uncertain times.” A chymryd y nifer o ymatebwyr a chanddynt yrfaoedd hir yn y sector (mae 53% wedi gweithio’n llawrydd am 10+ mlynedd), ac ystod oedran mwyaf cyffredin yr ymatebwyr (45–54), ni ellir esbonio’r cyfraddau incwm isel yma ar sail y ffactorau hyn. Ers diwedd 2021 mae’r DU wedi profi argyfwng costau byw gyda chostau’n codi i’r entrychion a chwyddiant uchel[18] – er bod y gyfradd chwyddiant bellach wedi arafu, mae’r cyfuniad o brisiau uwch am nwyddau, a biliau uwch, yn parhau i effeithio’n drwm iawn ar gymdeithas: mae’n effeithio ar gynulleidfaoedd, llawryddion, a sefydliadau fel ei gilydd. Gwyddom fod costau creu cynyrchiadau theatr a’u tebyg wedi codi o 20–40%[19] mewn cymhariaeth â chostau 2021, er enghraifft. Yng ngoleuni hyn, gofynnwyd i lawryddion a oeddynt wedi codi eu cyfraddau (fesul awr neu’n ddyddiol) yn unol â chwyddiant i adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw a’r cynnydd mewn cost defnyddiau: dim ond 32% a nododd eu bod wedi gwneud hyn. Ffigur 13: Atebion i’r cwestiwn ‘Ydych chi wedi codi eich cyfraddau yn unol â chwyddiant?’ Teimlai amryw o’r llawryddion nad oedd ganddynt unrhyw bŵer personol i godi eu cyfraddau, ac os am newid y sefyllfa byddai angen newid sylweddol a lobïo ar draws y diwydiant cyfan: “The daily rates paid have been stuck for years. I have to layer many more contracts now, to keep enough money coming in. The result is I am always working, no work life balance at all.” “Freelance rates are not increasing with the rate of inflation and the cost of living.” “Often rates are set by [organisations] rather than by individuals and it’s a take it or leave it negotiation as so many are desperate for work.” “Concerned about the lack of increase in day rate due to current cost of living rises.” “Everywhere is choosing the minimum level of fee regardless of the size of the venue. More needs to be done by the Arts Council of Wales to force change within organisations.” Teimlai eraill fod ganddynt fwy o rym i wneud y newidiadau hynny, yn seiliedig naill ai ar aelodaeth o undeb neu drwy gefnogaeth gan gyfoedion: “I raise my fees every year. I’ve been encouraged by fellow freelancers and believe everyone should. Sure, your work may change, but you have to put survival over the discomfort of talking prices.” Roedd rhai llawryddion yn cydymdeimlo â chleientiaid a chwsmeriaid oedd yn gorfod gwario llai yn ystod yr argyfwng costau byw, yn enwedig os oedd y rhain yn unigolion neu’n grwpiau cymunedol. “Customers are finding it very hard to justify spending in the creative sector. Everyone is cutting on spending no matter what size of business that you are working with. Fellow traders and self-employed workers are finding trade very slow right now.” Holwyd y llawryddion hefyd am eu hansicrwydd ariannol trwy ofyn y cwestiwn: ‘Gan feddwl am eich cynilion, a allech chi dalu eich rhent/morgais a biliau am y 3 mis nesaf allan o’r hyn rydych wedi’i gynilo?’ Dewisodd nifer fechan o ymatebwyr beidio ag ateb y cwestiwn hwn, ac rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn ddull o holi allai achosi straen. O’r llawryddion a atebodd, dywedodd 51% na fyddent yn gallu byw ar eu cynilion, gan beintio darlun llwm o ba mor ansicr yw’r sefyllfa i lawer. Ar gyfartaledd, llawryddion ym maes Cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau gweledol oedd y rhai a ddioddefai fwyaf o ran diffyg cynilion. Ffigur 14: Atebion ymatebwyr i’r cwestiwn ‘Gan feddwl am eich cynilion, allech chi dalu eich rhent/morgais a’ch biliau am y 3 mis nesaf allan o’r hyn rydych wedi’i gynilo?’ Tynnodd pobl sylw hefyd at fathau eraill o ansicrwydd ariannol, megis anhawster i gael Credyd Cynhwysol neu drefnu tenantiaethau: “As a newer freelancer I've also struggled to get housing without a guarantor as a renter, and am having to wait until I can prove my income well enough in order to get a mortgage, something my counterparts who only earn PAYE don't have to do.” Gwaith a rhagolygon Cafodd llawryddion eu taro’n galed yn ystod y pandemig COVID-19, gan golli dros 80% o’u gwaith.[20] Eleni, gofynnwyd i lawryddion p’un ai a oedd lefelau eu gwaith wedi codi neu ddisgyn mewn cymhariaeth â lefelau cyn-bandemig. Ffigur 15: Atebion ymatebwyr pan holwyd hwy a oedd maint eu gwaith llawrydd wedi cynyddu neu leihau mewn cymhariaeth â lefelau cyn-bandemig (2020). Roedd 29% o’r llawryddion wedi gweld cynnydd yn gyffredinol, tra bod 43% wedi gweld gostyngiad yn y maint o waith maent yn ei wneud, hyd yn oed dair blynedd yn ddiweddarach. I 21% o’r llawryddion, roedd maint y gwaith wedi bod yn sefydlog, neu wedi dychwelyd i lefelau cyn-bandemig. Fel y gwelwn yn Nhabl 2 ar y dudalen nesaf, cafodd rhai sectorau eu taro’n galetach nag eraill gan y gostyngiad yn eu gwaith: llawryddion ym maes Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio gafodd yr anhawster mwyaf, yn cael eu dilyn gan feysydd Ffilm, teledu, fideo, radio, ffotograffiaeth ac Arall. Hefyd, roedd yna lawer o sectorau oedd yn tueddu tuag at lefelau uwch o ran gwaith, neu lefelau sefydlog, hyd yn oed os nad yw’r rhain mor optimistaidd ag y byddem yn ei hoffi. Gofynnwyd hefyd i’r llawryddion beth oedd eu teimladau ynghylch y sector celfyddydol yn gyffredinol: a oeddynt yn gweld eu hunain yn aros yn y diwydiant, neu’n gadael? Rhyddhad oedd gweld bod 71% o’r ymatebwyr naill ai’n sicr o aros, neu’n debygol o aros, yn y byd llawryddion celfyddydol, ond fel yr amlygwyd eisoes mae sawl cafead ynghylch ansicrwydd yn dod yn sgil hynny. Mae 25% yn ansicr ynghylch aros yn y maes neu adael. Mae’r niferoedd hyn yn cyd-fynd yn agos â’n data ymchwil yn 2021 (byddai 72% yn parhau i weithio yn y sector, ac roedd 23% yn ansicr). Tabl 2: Dull gweledol o ddangos y modd y mae gwaith wedi cynyddu neu ostwng (neu aros yr un fath) ar draws y sectorau celfyddydol. Po dywyllaf y lliw, po fwyaf o ymatebwyr a ddewisodd yr opsiwn hwn. Does dim data ar gyfer y blychau gwyn. Ffigur 16: Ymatebion ynghylch p’un ai roedd llawryddion yn bwriadu aros yn y sector ai peidio. Roedd llawryddion yn llafar ynghylch eu rhesymau dros fod yn awyddus i adael, neu’n teimlo’n ansicr ynghylch aros yn y sector, gan nodi straen, diffyg cydbwysedd gwaith/bywyd, a ‘diffyg gwerthfawrogiad o wasanaethau unigryw’ ymhlith pethau eraill. Y rhwystrau y soniwyd amdanynt amlaf oedd cyfleoedd cyfyng a diffyg arian a chefnogaeth. “I don't want to leave but I've not had work for 9 months. I cannot survive. [...] Productions in Wales bring in outside crew or are so remote they aren't accessible to me as I don't drive.” “Gwaith yn brin. Methu fforddio gweithio ar golled bellach.” “After 20+ years I’m looking for a job with a regular salary.” “Actively looking for paid employment, including away from the arts.” “I want to stay in the sector, I would love to freelance full time. But the lack of security of work, support if sick, and lack of knowledge and support for working with freelancers that most organisations have makes it hard.” Roedd rhai llawryddion yn cael trafferth gyda newidiadau mewn arferion gwaith yn eu sector: “I have struggled since the pandemic and am barely working mostly due to everything being done by self-tape which is akin to acting in a vacuum. How am I going to work in the future if I am not meeting directors and casting directors in person anymore?” Roedd yna hefyd leisiau o obaith ac adnewyddiad: “I’m staying. I love my art and hope the financial situation will improve.” “I feel very lucky to work in this sector and am driven by a mission to support people and organisations in the sector.” “I feel that creative freelancers and full time self-employed musicians in particular are very misunderstood and undervalued. But there’s always hope for improvement. Musicians continue to fight the good fight. [...] There’s hope.” “I have never been fully in the sector, I am leaving my permanent job to go into the sector.” Ar fater rhagolygon, gofynnwyd i lawryddion a oeddynt yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth yn y sector, beth bynnag roedd hynny’n ei olygu iddynt hwy’n bersonol. Er bod yr ymatebion yn amrywio, roedd y mwyafrif (71%) o’r farn nad oeddynt yn cael digon o gefnogaeth. Nododd sawl un eu bod wedi cael cymorth yn ystod y pandemig COVID-19, ond erbyn hyn teimlent eu bod yn cael eu gadael ‘ar eu pennau eu hunain’, neu bod chwilio am gefnogaeth yn ormod o ymdrech. “Mae’n waith i chwilio am gefnogaeth.” “I've had to make use of paid memberships to professional organisations or free forums to get general advice and support.” “I'd love to join a union but don't have a steady enough income at the moment to be able to afford it. I'd also love to have something like a regular meet-up for co-working or accountability between other freelancers.” “The support I receive as a freelancer is minimal in Wales. Indeed, it is the reason why, year-on-year, the percentage of work I do within the country has steadily diminished. Despite living in Wales, I do less than 10% of my work in the country; I expect this to be even less next year. Opportunities for networking within my particular field are few and far between, and rarely have a Wales-specific focus.” Roedd llawryddion oedd yn dechrau allan yn y sector, a’r rhai mewn swyddi celfyddydol cefnogol (e.g. pobl yn gweithio ym meysydd codi arian, marchnata, a gwerthuso) yn teimlo’n gryf eu bod wedi cael eu hanghofio a’u dieithrio. Pan oedd llawryddion yn mynegi eu bod o’r farn eu bod yn cael cefnogaeth, roedd hyn yn aml yn golygu cael amgylchedd cefnogol o’u cwmpas: ffrindiau, teulu a chyfoedion. Roedd llawer yn amlygu’r angen am rwydweithiau da – nid yn unig o ran dod o hyd i waith, ond er mwyn annog ei gilydd ymlaen. “This varies from job to job but I feel most supported when I am working alongside other freelancers. I am also lucky to have several freelancers as friends.” “I think that people are very supportive. And people in organisations who I work for on a freelance basis are good people and generally they pay promptly and treat people fairly.” “A lot of my support comes from other freelancers that I collaborate with, support in finding work, writing applications etc.” Roedd rhai’n mynegi syndod, heb erioed ddychmygu y gallent ofyn am gymorth, neu’n teimlo bod gweithio’n llawrydd yn awtomatig yn golygu bod raid iddynt fod ar wahân i bobl eraill. Roedd pobl yn y categori hwn yn pwysleisio bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o ba gymorth fyddai ar gael, a ble i fynd i chwilio amdano. Mae llawryddion yn bobl ddyfeisgar, ac isod mae rhestr o ddyfyniadau sy’n tanlinellu rhai o syniadau’r ymatebwyr ynglŷn ag atebion a’r ffordd ymlaen: “Feels like community would help. Being part of a creative team.” “I would like to see more competitions with prizes organised for freelancers in various industries.” “Funding needs to continue being invested in organisations that go way and beyond to support their communities through the arts.” “[The] French model of supporting creatives in the industry with a minimum grant per person would make it more sustainable so that the feast-famine element is removed.” “I think freelancers need to have a strong voice in portfolio review. [...] I would like to see critical reflection on the decisions that are made. If we remain with the same portfolio [then] freelancers will continue to suffer.” “We also need more power to call out bad practice. [...] Too many freelancers are taking underpaid work and are so happy to be working they don’t feel they have the power to complain!” ________________ Effaith Brexit Roedd peth o’n hymchwil yn ffocysu ar y canlyniadau a ddeilliodd o Brexit, gan fod hyn wedi codi ymhlith llawryddion fel mater o bryder. Digwyddodd Brexit yn swyddogol ar 31 Ionawr 2020, ac mae ei effeithiau’n aml yn mynd o’r golwg dan gysgod y pandemig COVID-19 a’i dilynodd, ynghyd â’r argyfwng costau byw, ond roedd mesur ei effaith yn ffactor bwysig yn yr arolwg eleni. Nododd 45% o’r ymatebwyr nad oedd Brexit wedi cael effaith ar eu gwaith llawrydd. Yn ôl yr ymatebion i’r arolwg, y rhai yr effeithiwyd arnynt leiaf gan Brexit oedd y rhai oedd yn gweithio ym meysydd Hysbysebu a marchnata, Cyhoeddi, Pensaernïaeth, a Thechnoleg Gwybodaeth, meddalwedd, gemau fideo a gwasanaethau cyfrifiadurol. Ffigur 17: Dull gweledol o ddangos problemau Brexit, wedi’u trefnu yn ôl amlder. Maent yn cynnwys: anawsterau cydweithio, canslo gwaith, problemau mewnforio cyflenwadau, problemau mewnforio nwyddau, angen trwyddedau arbennig, ‘arall’ ac anawsterau gyda symud cerbydau. Fodd bynnag, ni lwyddodd yr un sector i ddianc yn llwyr rhag ei effaith. Er mai llawryddion yn gweithio ym meysydd Cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio oedd y lleiaf tebygol i sylwi ar effaith Brexit ar eu gwaith (nododd 27% ‘Nid wyf wedi sylwi ar unrhyw effaith ar fy ngwaith oherwydd Brexit’), nododd yr un sector y golled fwyaf o waith yn yr Undeb Ewropeaidd (18%) a’r nifer uchaf o achosion o ymdrechu i gydweithio gyda gweithwyr celfyddydol eraill yn Ewrop (26%). Roedd colli gwaith a phroblemau cydweithredu hefyd yn anawsterau allweddol i lawryddion ym meysydd Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth, y Celfyddydau gweledol, ac Amgueddfeydd, orielau, treftadaeth, a llyfrgelloedd. Roedd symud cyflenwadau a nwyddau ar draws ffiniau yn broblem, yn enwedig ym meysydd y Celfyddydau gweledol, Dylunio, ac ymarferwyr Crefftau, ond yn achosi cur pen hefyd ym meysydd Ffilm, Teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth, Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio, ac Amgueddfeydd, orielau, treftadaeth, a llyfrgelloedd. Roedd llawryddion yn sicr wedi teimlo effaith andwyol Brexit, yn nhermau colli cyfleoedd a mwy o gystadleuaeth am y cronfeydd ariannol oedd ar gael: “I’ve had less international work than in the past.” “Impact still to reveal itself in full. Less funding around generally – hard to know how much is due to Brexit.” “As a producer I see less funding programmes available for these types of collaboration.” “No EU funding available. Written on audition adverts ‘please do not apply if from UK’ etc.” “Brexit has severely impacted my work sector, there has been absolutely no support from anybody. [...] Brexit to me and my contemporaries feel like the biggest loss of our rights in this life-time. The UK now feels more than ever like a hostile attitude and environment for musicians and artists.” “Brexit has seriously affected my work opportunities as part of a UK based live events industry that was (pre-Brexit) the acknowledged largest supplier of live event and conference expertise in Europe and beyond.” “Less funding from the EU means fewer new projects.” “The levelling up funding hasn't reached my work areas yet. Nor do I have much confidence it will.” Caiff y teimladau uchod eu hadlewyrchu yng nghanfyddiadau’r Big Freelancer Survey 2023[21] a gynhaliwyd ledled y DU – roedd yn ffocysu ar y theatr a’r celfyddydau perfformio yn arbennig. Teimlai 78% o’u hymatebwyr fod Brexit yn ffynhonnell ansicrwydd, ac roedd yr adroddiad yn amlygu problemau o gwmpas fisas gwaith, tollau mewnforio, a thanseilio gwaith cydweithredol. Roedd rhai effeithiau’n emosiynol eu naws, yn cynnwys cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ac effeithio ar hyder y llawryddion: “Reluctance to expand into international export.” Mynegodd eraill nad oedd yr effaith i’w gweld ar unwaith, ond bod y partneriaethau a’r cyllid oedd ar gael ym mhocedi’r cleientiaid i gyd wedi gostwng. Roedd ymatebwyr yn gresynu’n fawr o golli comisiynau Ewropeaidd yn llwyr, ynghyd â’r cyfalau diwylliannol oedd yn cefnogi nifer fawr o wasanaethau ychwanegol (e.e. gofodau cyd-weithio a chymorth datblygu busnes yn rhad ac am ddim). Mynegodd llawryddion oedd yn dibynnu ar dwristiaeth a gwerthiant rhyngwladol hefyd eu bod yn teimlo wedi eu ‘hynysu’, a phawb wedi anghofio amdanynt. Casgliadau ac argymhellion Er bod poblogaeth llawrydd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol o 17%[22] dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi parhau’n wydn ac mae rhai (yn enwedig Pensaernïaeth a Thechnoleg Gwybodaeth, meddalwedd, gemau fideo, a gwasanaethau cyfrifiadurol) yn ymadfer.[23] Caiff yr wybodaeth honno ei lleddfu gan y sylweddoliad fod y perygl o swyddi llawrydd yn cael eu torri[24] yn real iawn yng ngoleuni’r argyfwng costau byw. Mae’n bosibl fod y nifer o lawryddion celfyddydol a chreadigol yng Nghymru hyd yn oed yn uwch nag a gredid yn wreiddiol (amcangyfrifwyd 8,500[25] gennym yn ôl yn 2020): gallem fod cymaint â 23,000, yn ôl amcangyfrifon Clwstwr.[26] Mae’r sector celfyddydol yng Nghymru wedi tyfu’n uwch na lefelau 2019, a hynny o 5% a mwy, ac eto mae llawryddion yn parhau i gael trafferth, yn enwedig ym meysydd Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio. Fel ciplun o’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant, gallwn ddweud bod y rhan fwyaf o’r llawryddion celfyddydol wedi eu lleoli yn ne Cymru, gydag 1 o bob 5 yn byw yn ardal Caerdydd, ond roedd y gweithlu wedi eu gwasgaru dros Gymru gyfan. Roedd tua 63% wedi eu lleoli mewn trefi a dinasoedd, a’r gweddill mewn ardaledd gwledig. Yn 2023, roedd y person llawrydd celfyddydol nodweddiadol yn fenyw, 35–64 oed, yn wyn, ac o gefndir cymdeithasol-economaidd uwch. Roedd 1 o bob 4 yn diffinio fel anabl, b/Byddar a/neu niwroamrywiol. Deuai 6% o’r Mwyafrif Byd-eang. Roedd 57% yn gweithio mewn mwy nag un sector o fewn y maes celfyddydol, gyda’r mwyafrif yn gweithio ym maes Cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio, y Celfyddydau gweledol, a Ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth. Roedd 69% yn hunan-gyflogedig, ond roedd llawer yn cyfuno hyn â gwaith PAYE i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Dywedodd 51% na allent dalu gwerth tri mis o rent/morgais a biliau allan o’u cynilion, gan beintio darlun llwm o ansicrwydd a gofidio am arian. Mae 60% o’r gwaith a wneir gan lawryddion celfyddydol yng Nghymru’n cael ei gyflawni neu ei gomisiynu o fewn Cymru. Roedd pobl yn awyddus i weld y nifer yma’n cynyddu, ond yn cael trafferth i ddod o hyd i gyfleoedd. Amlygodd rhai y ffaith fod cwmnïau a sefydliadau’n recriwtio o’r tu allan i Gymru, neu nad oeddynt yn hysbysebu’r gwaith yn ddigon eang. Roedd menywod a llawryddion anneuaidd yn parhau i ennill llai na llawryddion celfyddydol gwryw, yn union fel roedd aelodau o’r Mwyafrif Byd-eang yn parhau i fod yn ennill llai na llawryddion Gwyn. Roedd y rhai oedd yn hunan-ddiffinio fel anabl, b/Byddar, a/neu niwroamrywiol yn cael problemau gydag ansicrwydd ariannol yn ogystal â diffyg dealltwriaeth. Roedd dosbarth cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr: deuai 31% o’r llawryddion celfyddydol o gefndiroedd dosbarth gweithiol, ac roeddynt yn gorfod stryffaglu’n anghymesur o gymharu ag eraill yn y sector. Yn ogystal, roedd llawryddion yng ngogledd Cymru hefyd yn wynebu mwy o galedi ariannol. I gloi, mae Brexit wedi arwain at lai o gyfleoedd, llai o waith, bylchau mawr mewn cyllid, niwed i enw da, a rhagor o anawsterau i lawryddion celfyddydol yn gyffredinol. Isod mae rhestr o’r materion a nodwyd gan lawryddion yn yr arolwg hwn fel eu prif bryderon: * Heneiddio a cael profiad o wahaniaethu ar sail oedran * Ansicrwydd ariannol, diffyg sicrwydd a diffyg cyfleoedd * Angen strwythurau rhwydweithio a chefnogaeth gymdeithasol * Diffyg dealltwriaeth o’r hyn y mae ar lawryddion ei angen, sut rydyn ni’n gweithredu, a sut orau i’n cefnogi yn yr amgylchedd gwaith Ar wahân i’r argymhellion isod, hoffem dynnu sylw at yr angen gwirioneddol yn y sector am y canlynol: * Dulliau o ddysgu Cymraeg i lawryddion – a’r rheiny wedi eu hariannu’n llawn neu’n rhannol – wedi eu cyflwyno mor hyblyg â phosib i gymryd gwahanol ddulliau dysgu a ffyrdd o fyw i ystyriaeth * Cyfeirio at adnoddau lle gall llawryddion ddod o hyd i gymorth a chyngor sy’n gyfredol, yn rhad ac am ddim, neu wedi ei sybsideiddio’n drwm * Rhagor o gronfeydd ariannol wedi eu clustnodi ar gyfer llawryddion dosbarth gweithiol yn gyffredinol * Parhad o’r ymdrechion i alluogi sefydliadau i ymgymryd â hyfforddiant ar amrywiaeth a chynhwysiant ar sawl lefel, yn cynnwys sicrhau bod llawryddion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith hwn Nid oedd y tirlun yn gwbl ddigalon, fodd bynnag: roedd 71% o’r llawryddion yn awyddus i aros yn y diwydiant. Ar y cyfan, roedd llawryddion o’r Mwyafrif Byd-eang yn gweld cynnydd yn eu gwaith, ac yn teimlo hyd yn oed yn fwy positif ynghylch gweithio yn y sector. Roedd mwy o lawryddion yn dysgu Cymraeg nag erioed o’r blaen, gyda 60% ohonynt yn siarad rhyw lefel o Gymraeg. Roedd yna arwyddion o obaith ymhlith yr adborth a dderbyniwyd gennym, yn ogystal â nifer o sefydliadau roedd pobl o’r farn y dylid eu dathlu am eu gwaith gyda ac ar gyfer llawryddion (gweler yr Atodiad). Isod, nodir ein hargymhellion ar gyfer gweithredu ar unwaith y gellir eu mabwysiadu gan gyrff ariannu, sefydliadau, a’r llawryddion eu hunain. Argymhellion ar gyfer cyrff ariannu 1. Blaenoriaethu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n llwyddo i gyflenwi arfer gorau yn y maes llawrydd 2. Rhoi offer rhwydd-ei-ddefnyddio i lawryddion fel bod modd iddynt adrodd yn ôl am unrhyw achosion o ymddygiad problematig y dônt ar eu traws 3. Trefnu cyllid pwrpasol i lenwi’r bylchau a adawyd gan arian o’r Undeb Ewropeaidd ers Brexit Dymuniad llawryddion yw cael eu trin gydag urddas a pharch – dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y portffolios ariannu. Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i raddfeydd cyflog, ond rhaid iddo gynnwys ffactorau megis arferion gwaith tryloyw, cynhwysiant, a chyfathrebu. Rhaid i lawryddion deimlo eu bod wedi eu grymuso ddigon i allu herio a thynnu sylw at ymddygiad problematig y dônt ar eu traws mewn sefydliadau a ariennir. Mae’n bwysig bod yr offer hwn yn hawdd ei ddefnyddio, ac nid dim ond yn ymarferiad mewn gor-fiwrocratiaeth. Mae’r trydydd argymhelliad yn rhywbeth mawr i’w ofyn, ond mae’r sector celfyddydol yn galw’n daer am y cyfleoedd a gollwyd ers Brexit: os am gyflwyno teimlad o obaith, bydd angen i Gymru fynd i’r afael â’r bwlch cyllido hwn. Argymhellion ar gyfer sefydliadau a rhwydweithau 1. Hysbysebu swyddi llawrydd yn eang a thryloyw o fewn Cymru 2. Ymrwymo i dalu cyfraddau cyflog teg i lawryddion (cyfraddau Undeb neu well) 3. Cyllido arferion sy’n pontio sawl cenhedlaeth rhwng llawryddion celfyddydol Nododd llawryddion fod recriwtio yn gallu bod yn anrhyloyw ac yn llawn ffafriaeth. Mae recriwtio tryloyw yn rhan hanfodol o farchnad swyddi ffyniannus a theg. Byddai hysbysebu pob rôl lawrydd mewn amryw o wahanol lefydd – ar-lein ac all-lein – yn lle da i ddechrau. Mae angen rhoi tâl gwell i lawryddion. Hoffem weld pob sefydliad, bach a mawr, yn gweithio gyda llawryddion i ymrwymo i gyflog teg. Bydd hyn yn amrywio rhwng sectorau, ond mae yna ganllawiau ar gael yn achos nifer o swyddi, a byddem yn annog cynnal y trafodaethau hyn gyda’r llawryddion eu hunain, nid yn cymryd penderfyniadau y tu ôl i ddrysau caeedig. Yn drydydd, mae ar lawryddion angen mwy o waith rhyng-genhedlaeth os am fod yn gynhwysol ac iach: bydd trosglwyddo sgiliau, dysgu gan y naill a’r llall, a gadael i lawryddion o bob oedran weithio gyda’i gilydd yn fuddiol i’r sector cyfan. Rhaid talu am y gwaith hwn, gan na all llawryddion roi eu hamser a’u gwybodaeth yn rhad ac am ddim. Argymhellion ar gyfer llawryddion unigol 1. Codwch eich cyfraddau a chael sgyrsiau gonest ynghylch arian 2. Chwiliwch am eich cymuned eich hun, neu mynd ati i greu un 3. Ystyriwch ymuno ag undeb I gyd-lawryddion sy’n darllen yr adroddiad hwn: byddwch yn eofn a rhoi gwerth uchel ar eich sgiliau. Mae llawer yn teimlo’n anghysurus yn trafod arian neu godi prisiau, ond mae hwn yn gyfnod anodd. Codwch eich cyfraddau, neu trafodwch y costau gyda chleientiaid a chyflogwyr. Heriwch unrhyw geisiadau am waith di-dâl: mae sefydliadau fel Unlimited wedi creu adnoddau ar gyfer hyn. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cysur, nerth, a chyd-gefnogaeth ymhlith eich gilydd. Mynegodd llawer o ymatebwyr yr awydd am gymuned neu deimlad o ynysu: gellir cyflawni hyn. Ewch ati i ffurfio cyd-weithfeydd, estynnwch allan ar-lein, cyd-weithiwch, trefnwch ofodau lle gall llawryddion gwrdd. Ni ellir dosbarthu rhwydwaith cefnogol: rhaid iddo dyfu. Mae ein trydydd argymhelliad y tu hwnt i rai cyllidebau, ond gall ymuno ag undeb llafur sy’n berthnasol i’ch rôl llawrydd ddod â chryn werth ychwanegol yn ei sgil, megis cyngor wedi’i deilwrio, cefnogaeth yn y gwaith, a’r gallu i ddylanwadu ar amodau’r sector. Os hoffech fod yn rhan o ddatblygu ein gwaith yn y dyfodol fel llawryddion yn cefnogi llawryddion, neu ddilyn ymhellach unrhyw rai o ganfyddiadau’r gwaith hwn, cysylltwch â Llawryddion Celfyddydol Cymru ar hello@cfw.wales ATODIAD Sefydliadau i’w dathlu Fel rhan o’n Harolwg i Lawryddion 2023, gofynnwyd i lawryddion dynnu sylw at sefydliadau, grwpiau a chynlluniau yn y sector celfyddydol yng Nghymru a oedd, yn eu barn hwy, yn cyflawni arfer gorau yng nghyd-destun y defnydd a wneir o’r gweithlu llawrydd a’r gefnogaeth a roddir iddynt. Isod mae rhestr (yn nhrefn yr wyddor) o’r rhai sydd, ym marn yr ymatebwyr, yn haeddu canmoliaeth: * Amgueddfa Cymru | National Museum Wales * Anthem Wales * Artes Mundi * ArtHole * Avant Cymru * Bad Wolf * Beastly Media * Bectu * Busnes Cymru * Calon FM gorsaf radio gymunedol * Canolfan Grefft Rhuthun * Cardiff Animation Festival * Cardiff Umbrella * Celf Ar Gyfer Iechyd A Lles (Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro) * Chapter * CHERISH * Citrus Arts * Common Wealth Theatre * Cyngor Celfyddydau Cymru * Cyngor Llyfrau Cymru - Books Council of Wales * Dance Collective CIC * Denbighshire Heritage Service * Disability Arts Cymru * Dyffryn Dyfodol * Elysium Gallery & Studios * Emerge Community Arts * Equity * Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru * Ffilm Cymru * Ffiwsar * Gofal Celf Arts Care * Gorwelion Horizons * Hay Festival * Head4Arts * Hijinx Theatre * The Hold Up Arts Collective * Jac Lewis Foundation * Leeway Productions * Llenyddiaeth Cymru * Make It! Gwnewch e! * Muslim Council of Wales * National Union of Journalists * Oasis One World Choir * Omidaze Productions * On Par Productions * Opera Cenedlaethol Cymru | Welsh National Opera * Oriel Davies * Peak Cymru * Pen and Paper Theatre * PLANED * Rabble Studio * Radar Mag * Screen Alliance Wales * ScreenSkills * SHIFT * Startup Stiwdio * Tafwyl * Taking Flight Theatre * Tin Shed Theatre Co * Theatr Gwaun * Theatr Soar * Tŷ Cerdd – Music Centre Wales * Urban Circle Newport * Urban Myth Films * Urdd Cymoedd * Vertical Dance Kate Lawrence * Volcano Theatre Company * WAHWN (Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru) * Ways of Working Ltd * Yeti Television (Yeti Media) * Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen Mae yna hefyd nifer o gyfeiriadau at weithwyr celfyddydol unigol sy’n haeddu canmoliaeth, yn ogystal â gresynu dros sefydliadau a grwpiau sydd wedi mynd allan o fodolaeth dros y blynyddoedd (e.e. Community Dance Wales, Minty’s Gig Guide, GALWAD, a Shared Spaces / Business in Focus). Nid yw’r sefydliadau uchod yn gysylltiedig â’r arolwg hwn, ond soniwyd amdanynt gan lawryddion ar draws y sector mewn cydnabyddiaeth o’u gwaith. ________________ [1] The Big Freelancer Survey 2023 report: https://freelancersmaketheatrework.com/wp-content/uploads/2023/06/FMTW-Big-Freelancers-Report-2023.pdf [2] Poblogaeth Cymru (Cyfrifiad 2021): https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/populationandhouseholdestimateswales/census2021 [3] IPSE The Self-Employed Landscape 2022: https://www.ipse.co.uk/policy/research/the-self-employed-landscape/self-employed-landscape-report-2022.html [4] De Cymru: Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy Canolbarth a Gorllewin Cymru: Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro Gogledd Cymru: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam [5] Diffinnir y rhain yn ôl y systemau Dosbarthiad Gwledig-Trefol drwy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://geoportal.statistics.gov.uk/documents/rural-urban-classification-2011-map-of-the-oas-in-wales-1/explore [6] Ers i’r Ddeddf BSL 2022 ddod i rym: https://bda.org.uk/bsl-act-now/ [7] Yr iaith Gymraeg yn ôl ystadegau’r boblogaeth (Cyfrifiad 2021): https://www.gov.wales/welsh-language-population-characteristics-census-2021-html [8] Cymraeg 2050: https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2018-12/cymraeg-2050-welsh-language-strategy.pdf [9] Gweler y defnydd o iaith o gwmpas anabledd: https://www.disabilityrightsuk.org/social-model-disability-language [10] Cyfrifiad 2021, data ar anabledd: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/healthandsocialcare/healthandwellbeing/bulletins/disabilityenglandandwales/census2021 [11] Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021): https://www.gov.wales/ethnic-group-national-identity-language-and-religion-wales-census-2021-html [12] Panic! Social Class, Taste, and Inequalities in the Creative Industries: https://createlondon.org/wp-content/uploads/2018/04/Panic-Social-Class-Taste-and-Inequalities-in-the-Creative-Industries1.pdf [13] Gweithredu positif yn y gweithle: https://www.gov.uk/government/publications/positive-action-in-the-workplace-guidance-for-employers/positive-action-in-the-workplace [14] Mesur Cefndir Cymdeithasol-economaidd yn eich Gweithlu (2018): https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/768371/Measuring_Socio-economic_Background_in_your_Workforce__recommended_measures_for_use_by_employers.pdf a Socio-Economic Diversity and Inclusion Toolkit for Creative Industries: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/615453128fa8f529777ffa91/SMC-Creative_Industries-Toolkit_Sept2021__1_.pdf [15] Musicians’ Census 2023: https://www.musicianscensus.co.uk [16] Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru (Medi 2022): https://business.senedd.wales/documents/s130508/Written%20evidence%20from%20Arts%20Council%20of%20Wales.pdf [17] Ystadegau cyflogau cyfartalog Cymru trwy Plumplot: https://www.plumplot.co.uk/Wales-salary-and-unemployment.html [18] Costau byw y mewnwelediadau diweddaraf o ONS (ar gael Hydref 2023): https://www.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices/articles/costofliving/latestinsights [19] Ymateb ysgrifenedig oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru (Medi 2022): https://business.senedd.wales/documents/s130508/Written%20evidence%20from%20Arts%20Council%20of%20Wales.pdf [20] ‘Ar Lwybr Adferiad?’ (2020): https://cfw.wales/adferiad [21] The Big Freelancer Survey 2023 Report: https://freelancersmaketheatrework.com/wp-content/uploads/2023/06/FMTW-Big-Freelancers-Report-2023.pdf [22] The Self-Employed Landscape Report 2022 (IPSE): https://www.ipse.co.uk/policy/research/the-self-employed-landscape/self-employed-landscape-report-2022.html [23] Diweddariad ar yr Adroddiad gan Clwstwr: http://www.clwstwr.org.uk/report-update-size-and-composition-creative-industries-wales-2022 [24] Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru (Medi 2022): https://business.senedd.wales/documents/s130508/Written%20evidence%20from%20Arts%20Council%20of%20Wales.pdf [25] Gweler y nodiadau methodoleg yn ‘Ar Lwybr Adferiad?’ (2020): https://cfw.wales/adferiad [26] Adroddiad Diwydiannau Creadigol Clwstwr Rhif 1.3: http://clwstwr.org.uk/sites/default/files/2023-09/Creative%20Industries%20Report%20No%201_3_Final.pdf