Prif Ganfyddiadau Gan ddilyn ymlaen o’r ymchwil a wnaed yn 2020 a 2021, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar beth yw sefyllfa llawryddion yng Nghymru erbyn hyn: maent wedi wynebu pandemig, Brexit, ac argyfwng costau byw parhaus. Dyma ein canfyddiadau: Mae’r rhan fwyaf o’r llawryddion celfyddydol yn debygol o fyw yn ne Cymru (roedd un o bob pump o’r ymatebwyr yn byw yng Nghaerdydd) lle mae cyfleoedd yn fwy niferus Roedd 60% o’r gwaith llawrydd celfyddydol wedi ei gomisiynu, neu wedi digwydd yng Nghymru ei hun, ac roedd awydd cryf i gynyddu’r ffigur hwnnw Roedd y rhan fwyaf o’r llawryddion celfyddydol yn yr ystod oedran 35–64 a chanddynt gryn brofiad yn y sector (10+ mlynedd) Roedd 23% o’r llawryddion celfyddydol yn eu diffinio eu hunain fel anabl, b/Byddar, a/neu niwroamrywiol Roedd dwywaith cymaint o lawryddion yn dysgu Cymraeg o’u cymharu â 2020, a tua 60% yn siarad rhyw lefel o Gymraeg Mae un o bob pedwar o’r llawryddion yn dal yn ansicr a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio, ac roedd eu hanner wedi gweld gostyngiad yn y gwaith y gallent ei gael Mae 71% o’r llawryddion yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth yn y sector celfyddydol, ac roedd llawer yn galw am fwy o ddealltwriaeth ac empathi gan sefydliadau a chleientiau Yn achos hanner yr holl lawryddion, ni fyddent yn gallu talu eu costau am dri mis trwy ddefnyddio’u cynilion, gan danlinellu’r ansicrwydd ariannol yn y sector Mae Brexit wedi gadael llawryddion gyda llai o gyfleoedd, llai o arian a mwy o drafferth. Y rhai sydd ag angen y mwyaf o gymorth yw llawryddion: sy’n gweithio ym maes cerddoriaeth neu’r celfyddydau perfformio sy’n diffinio eu hunain fel anabl, b/Byddar, a/neu niwroamrywiol o gefndiroedd dosbarth gweithiol mewn ardaloedd gwledig o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n heneiddio Mae amlygu’r anghenion hyn yn rhoi syniad i sefydliadau, cyrff cyllido, a chyd-lawryddion o’r hyn sydd ei angen ar lawryddion i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth, a’u bod yn abl i barhau i weithio yn y sector celfyddydol. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn sylfaen i’r gwaith polisi a gwneud penderfyniadau yn y sector celfyddydol yng Nghymru wrth symud ymlaen. Heb wneud unrhyw newid, rydym mewn perygl dybryd o golli ein gweithlu llawrydd, ond gyda’n gilydd gallwn greu diwydiant cryfach, mwy caredig, a thecach i bawb. Argymhellion Ar wahân i’r argymhellion isod, hoffem dynnu sylw at yr angen gwirioneddol yn y sector am y canlynol: Dulliau o ddysgu Cymraeg i lawryddion – a’r rheiny wedi eu hariannu’n llawn neu’n rhannol – wedi eu cyflwyno mor hyblyg â phosib i gymryd gwahanol ddulliau dysgu a ffyrdd o fyw i ystyriaeth Cyfeirio at adnoddau lle gall llawryddion ddod o hyd i gymorth a chyngor sy’n gyfredol, yn rhad ac am ddim, neu wedi ei sybsideiddio’n drwm Rhagor o gronfeydd ariannol wedi eu clustnodi ar gyfer llawryddion dosbarth gweithiol yn gyffredinol Parhad o’r ymdrechion i alluogi sefydliadau i ymgymryd â hyfforddiant ar amrywiaeth a chynhwysiant ar sawl lefel, yn cynnwys sicrhau bod llawryddion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith hwn  Isod, nodir ein hargymhellion ar gyfer gweithredu ar unwaith y gellir eu mabwysiadu gan gyrff ariannu, sefydliadau, a’r llawryddion eu hunain. Argymhellion ar gyfer cyrff ariannu 1. Blaenoriaethu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n llwyddo i gyflenwi arfer gorau yn y maes llawrydd   2. Rhoi offer rhwydd-ei-ddefnyddio i lawryddion fel bod modd iddynt adrodd yn ôl am unrhyw achosion o ymddygiad problematig y dônt ar eu traws 3. Trefnu cyllid pwrpasol i lenwi’r bylchau a adawyd gan arian o’r Undeb Ewropeaidd ers Brexit Dymuniad llawryddion yw cael eu trin gydag urddas a pharch – dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y portffolios ariannu. Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i raddfeydd cyflog,  ond rhaid iddo gynnwys ffactorau megis arferion gwaith tryloyw, cynhwysiant, a chyfathrebu. Rhaid i lawryddion deimlo eu bod wedi eu grymuso ddigon i allu herio a thynnu sylw at ymddygiad problematig y dônt ar eu traws mewn sefydliadau a ariennir.  Mae’n bwysig bod yr offer hwn yn hawdd ei ddefnyddio, ac nid dim ond yn ymarferiad mewn gor-fiwrocratiaeth.  Mae’r trydydd argymhelliad yn rhywbeth mawr i’w ofyn, ond mae’r sector celfyddydol yn galw’n daer am y cyfleoedd a gollwyd ers Brexit: os am gyflwyno teimlad o obaith, bydd angen i Gymru fynd i’r afael â’r bwlch cyllido hwn. Argymhellion ar gyfer sefydliadau a rhwydweithau 1. Hysbysebu swyddi llawrydd yn eang a thryloyw o fewn Cymru 2. Ymrwymo i dalu cyfraddau cyflog teg i lawryddion (cyfraddau Undeb neu well) 3. Cyllido arferion sy’n pontio sawl cenhedlaeth rhwng llawryddion celfyddydol Nododd llawryddion fod recriwtio yn gallu bod yn anrhyloyw ac yn llawn ffafriaeth. Mae recriwtio tryloyw yn rhan hanfodol o farchnad swyddi ffyniannus a theg. Byddai hysbysebu pob rôl lawrydd mewn amryw o wahanol lefydd – ar-lein ac all-lein – yn lle da i ddechrau. Mae angen rhoi tâl gwell i lawryddion. Hoffem weld pob sefydliad, bach a mawr, yn gweithio gyda llawryddion i ymrwymo i gyflog teg. Bydd hyn yn amrywio rhwng sectorau, ond mae yna ganllawiau ar gael yn achos nifer o swyddi, a byddem yn annog cynnal y trafodaethau hyn gyda’r llawryddion eu hunain, nid yn cymryd penderfyniadau y tu ôl i ddrysau caeedig. Yn drydydd, mae ar lawryddion angen mwy o waith rhyng-genhedlaeth os am fod yn gynhwysol ac iach: bydd trosglwyddo sgiliau, dysgu gan y naill a’r llall, a gadael i lawryddion o bob oedran weithio gyda’i gilydd yn fuddiol i’r sector cyfan. Rhaid talu am y gwaith hwn, gan na all llawryddion roi eu hamser a’u gwybodaeth yn rhad ac am ddim. Argymhellion ar gyfer llawryddion unigol 1. Codwch eich cyfraddau a chael sgyrsiau gonest ynghylch arian 2. Chwiliwch am eich cymuned eich hun, neu mynd ati i greu un 3. Ystyriwch ymuno ag undeb I gyd-lawryddion sy’n darllen yr adroddiad hwn: byddwch yn eofn a rhoi gwerth uchel ar eich sgiliau. Mae llawer yn teimlo’n anghysurus yn trafod arian neu godi prisiau, ond mae hwn yn gyfnod anodd. Codwch eich cyfraddau, neu trafodwch y costau gyda chleientiaid a chyflogwyr. Heriwch unrhyw geisiadau am waith di-dâl: mae sefydliadau fel Unlimited wedi creu adnoddau ar gyfer hyn. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cysur, nerth, a chyd-gefnogaeth ymhlith eich gilydd. Mynegodd llawer o ymatebwyr yr awydd am gymuned neu deimlad o ynysu: gellir cyflawni hyn. Ewch ati i ffurfio cyd-weithfeydd, estynnwch allan ar-lein, cyd-weithiwch, trefnwch ofodau lle gall llawryddion gwrdd. Ni ellir dosbarthu rhwydwaith cefnogol: rhaid iddo dyfu. Mae ein trydydd argymhelliad y tu hwnt i rai cyllidebau, ond gall ymuno ag undeb llafur sy’n berthnasol i’ch rôl llawrydd ddod â chryn werth ychwanegol yn ei sgil, megis cyngor wedi’i deilwrio, cefnogaeth yn y gwaith, a’r gallu i ddylanwadu ar amodau’r sector.  Os hoffech fod yn rhan o ddatblygu ein gwaith yn y dyfodol fel llawryddion yn cefnogi llawryddion, neu ddilyn ymhellach unrhyw rai o ganfyddiadau’r gwaith hwn, cysylltwch â Llawryddion Celfyddydol Cymru ar hello@cfw.wales