ATLAS CYMRU

MAPPING CULTURAL FREELANCERS IN WALES

 

Click here for an audio recording of this page. Scroll down for BSL recording. Let us know if you need this information in any other format.

To celebrate National Freelancers Day 2021, Cultural Freelancers Wales are working with Clwstwr to map the location and talents of the freelance workforce in Wales.

During the COVID-19 pandemic when we – freelancers – were at our most vulnerable, it became clear that funding bodies and governments held very little information on who we are, what we do and where we live, and consequently did not know how to help us when we needed them most. 

We don’t want this to happen again. 

We began to work on gathering some of this information as part of our Wales Freelance Survey last year, but that was just the start. We’re beginning this task again, but this time it’s much simpler. This time, all we need to know is your name/business name, where you’re based, and what you do.

This information will help the freelance community in a number of ways:

  • Help us inform funding bodies and Welsh Government when they are designing new emergency funds and ongoing support for the freelance workforce.

  • This information will form a new data layer on Clwstwr’s recently-launched Creative Economy Atlas Cymru; as a result, you’ll also be able to see details of other cultural freelancers around you and in the rest of the country and what they do. (Don’t worry – the only information visible will be where you’re based, your name and what you do.)

We know that this information will be ever-changing as people change careers, become employees or leave the industry, and for this reason we will be gathering this information regularly (about once every three years).

Please click the button below to get yourself on the Atlas. It should only take 2 minutes (we’ve timed it!). Thank you so much for helping us with this!

MAPIO LLAWRYDDION CELFYDDYDOL CYMRU

Cliciwch yma ar gyfer fersiwn sain o’r dudalen hon. Mae cyfieithiad BSL islaw. Gadewch i ni wybod os oes angen yr wybodaeth yma mewn unrhyw ffurf arall.

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Llawryddion 2021, mae Llawryddion Celfyddydol Cymru yn gweithio gyda Clwstwr i fapio lleoliad a thalentau’r gweithlu llawrydd yng Nghymru.

Yn ystod y pandemig COVID-19 pan oedden ni – y llawryddion – ar ein mwyaf bregus, daeth yn amlwg nad oedd cyrff cyllido na llywodraethau’n dal fawr ddim gwybodaeth ynghylch pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud a ble rydyn ni’n byw, ac o ganlyniad doedden nhw ddim yn gwybod sut i’n helpu ni ar yr union adeg pan oedd mwyaf o’u hangen nhw arnon ni. 

Dydyn ni ddim am weld hyn yn digwydd eto. 

Y llynedd, fe ddechreuwyd ar y gwaith o gasglu peth o’r wybodaeth hon fel rhan o Arolwg Llawryddion Cymru, ond dim ond megis dechrau oedd hynny. Rydyn ni nawr yn mynd ati unwaith eto, ond y tro hwn mae’n llawer symlach. Y tro hwn, yr unig bethau rydyn ni am wybod yw eich enw/enw busnes, lleoliad, a beth rydych chi’n wneud.

Bydd yr wybodaeth hon yn helpu ein cymuned mewn sawl ffordd:

  • Helpu ni i gynghori cyrff cyllido a Llywodraeth Cymru pan fyddant yn cynllunio cronfeydd argyfwng a chymorth parhaus ar gyfer y gweithlu llawrydd. 
  • Bydd yr wybodaeth yn ffurfio haen newydd o ddata yn Atlas Economi Greadigol Cymru, a lansiwyd yn ddiweddar gan Clwstwr; o ganlyniad, byddwch hefyd yn gallu gweld manylion llawryddion celfyddydol eraill sydd o’ch cwmpas chi ac yng ngweddill y wlad, a beth maen nhw’n wneud. (Peidiwch â phoeni – yr unig wybodaeth fydd i’w gweld yw eich lleoliad, eich enw, a beth rydych chi’n wneud.)

Rydyn ni’n sylweddoli y bydd yr wybodaeth hon yn newid yn gyson wrth i bobl newid gyrfa, cael swyddi neu adael y diwydiant, ac am y rheswm hwnnw byddwn yn casglu’r wybodaeth yn rheolaidd (unwaith bob rhyw dair blynedd).

Cliciwch y botwm isod er mwyn cael eich cynnwys yn yr Atlas. Ni ddylai gymryd mwy na 2 funud i chi! Diolch yn fawr am ein helpu ni gyda hyn!