Networking
‘Come Rain Or Shine’
hosted by CFW
Local Consultants Call out
CFW is recruiting two freelancers to act as local consultants to support on a series of remote networking walks.
What is Come Rain Or Shine hosted by CFW?
Stemming from Jo Fong’s series ‘Come Rain Or Shine’ (find out more information here), CFW will be hosting a series of events as an in-person way for freelancers in the creative and cultural communities to meet, unite and gather.
The events will be made of two parts: A Walk & A Gathering.
The walk will take a circular loop stimulating conversations and questions before returning to the host venue where a free-er form of discussion will take place inside with hot drinks.
In collaboration with Jo, we are funding and enrolling the roll out of these walks across three different venues across Wales- Pontypridd (South Wales), Bangor (North Wales), and Ceredigion (West Wales).
Who are we looking for?
We are looking for two freelance creative/ cultural workers to act as local consultants for our North and West Wales strains of the project, one based in or around Bangor and one based in or around Ceredigion.
We especially welcome applications from those who are:
• Deaf and/or disabled freelancers
• Freelancers of the Global Majority
• Freelancers who identify as LGBTQ+
• Confident Welsh speakers and/or those passionate about the Welsh language (could be learning Welsh)
What is the role?
As a local consultant, you will be the point of contact for both CFW and the freelancers participating in the events. You will liaise and provide information about the progress of the walks to CFW via email and zoom meetings. You will also be responsible for collating information from the freelancers in order for CFW to organise payments for their attendance.
You will guide the events. This will be in both guiding/ preparing routes (CFW will assist with preparation) for the walk element and also guiding the discussion elements by prompting questions, instructing the swapping of partners and groups etc, and being aware of time.
Fees:
For each event the local consultant will receive £50 (£25/hr) for their work around supporting it.
They will also receive their equal share of the participants’ pot for taking part in the event itself (this is a pot of £200 to be split by the number of attendees equally).
For attending the training day, the consultant will receive £100 for half a day’s work + travel expenses.
Time requirements:
The local consultant will be expected to attend one half day’s training session on the 22nd April in order to prepare for the role.
They will also be expected to attend the events, once a month on the required day, for no less than one hour and no more than two hours.
Liaising with CFW should take around 1 hour per month.
The period of work will begin in April and finish in August.
Locations:
These events will take place across three different venues across Wales: in Pontypridd (South Wales), Bangor (North Wales), and Ceredigion (West Wales).
The host venues for the walks are: Yma (Artis Community) and Small World theatre (Small world theatre) with a venue in Bangor TBC.
Our local host will need to be based in/ near Bangor or Cardigan.
Key dates:
13th March- Call out opens
24th March- Call out deadline
27th March- Week of ‘Interviews’
22nd April- Morning training day
Bangor Walks (3rd Tuesday of the month, except for June & July it’s the 2nd):
16th May
13th June
11th July
15th August
Ceredigion Walks (Last Tuesday of the month):
30th May
27th June
25th July
29th August
Requirements for the role:
-Be a kind and open person
-Be a responsible and trusting person
-Be local to the area
-Able to accompany a group around a pre-discussed route
-Able to stimulate conversations and interact confidently with strangers
-Able to adapt for needs of group/ respond to environment and surroundings
-Able to commit to most/ if not all of the given dates and if not able to support in finding cover for those dates
-Able to communicate with CFW on progress of project and provide unbiased feedback
-Able to transport themselves to and from the designated host venue
-Happy to be contacted by freelancers for the purpose of providing information around the events
How to apply to be one of our local consultants?
Please provide a small section, under 200 words or less than 2 minutes audio/ video, detailing the below and send to hello@cfw.wales
-Who are you and where are you based?
-What does your community mean to you?
-What experience do you have facilitating or doing community based work?
-Why does this project appeal to you?
We welcome applications in Cymraeg, English, written, audio and video formats. Please ensure the files attached/ links are valid before sending.
*Please send all applications by 5pm on the 24th March to our email: hello@cfw.wales*
Applicants will be updated on the status of their application by the 27th March.
Short, informal interviews will commence on the week starting the 3rd April.
All interviewees will know the outcome of their application within a week of their interview.
We look forward to hearing from you,
Jo and The Cultural Freelancer’s Wales team: Angharad, Becky, Krystal, Jenny & Jeremy
Access support
If you need any support with your application, please email: hello@cfw.wales
‘Mewn Glaw neu Hindda’ a drefnir gan LlCC
Galwad Agored am Ymgynghorwyr Lleol
Mae LlCC yn recriwtio dau berson llawrydd i weithredu fel ymgynghorwyr lleol i gefnogi cyfres o deithiau cerdded rhyngweithiol diarffordd.
Beth yw Mewn Glaw neu Hindda a drefnir gan LlCC?
Wedi’i seilio ar gyfres Jo Fong, ‘Come Rain Or Shine’ (am ragor o wybodaeth ewch i), bydd LlCC yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau fel dull wyneb-yn-wyneb o alluogi llawryddion yn y cymunedau creadigol a chelfyddydol i gwrdd, i ddod at ei gilydd ac i ymgynnull.
Bydd y digwyddiadau mewn dwy ran: Taith Gerdded ac Ymgynnull. Bydd y daith gerdded yn dilyn llwybr cylchol gan ysgogi sgyrsiau a chwestiynau, cyn dychwelyd i’r lleoliad lletyol lle cynhelir trafodaeth fwy rhydd dan do dros ddiodydd poeth.
Mewn cydweithrediad â Jo, rydyn ni’n ariannu ac yn trefnu’r teithiau cerdded hyn mewn tri gwahanol leoliad ledled Cymru – Pontypridd (de Cymru), Bangor (gogledd Cymru), a Cheredigion (gorllewin Cymru).
Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am ddau berson llawrydd creadigol/celfyddydol i weithredu fel ymgynghorwyr lleol ar gyfer y rhannau hynny o’r prosiect a gynhelir yng ngogledd a gorllewin Cymru – un wedi’i leoli ym Mangor neu’r ardal gyfagos, a’r llall yng Ngheredigion neu’r cyffiniau.
Byddem yn rhoi croeso arbennig i geisiadau oddi wrth y canlynol:
• Llawryddion byddar a/neu anabl
• Llawryddion o’r Mwyafrif Byd-eang
• Llawryddion sy’n uniaethu fel LGBTQ+
• Siaradwyr Cymraeg hyderus a/neu rai sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg (gallant fod yn dysgu Cymraeg)
Beth yw’r rôl?
Fel ymgynghorydd lleol, chi fydd y pwynt cyswllt ar gyfer LlCC a’r llawryddion sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau. Byddwch yn cysylltu ag eraill ac yn darparu gwybodaeth am gynnydd y teithiau cerdded i LlCC drwy gyfrwng ebyst a chyfarfodydd zoom. Chi hefyd fydd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth gan y llawryddion fel bod modd i LlCC drefnu i’w talu am eu presenoldeb.
Chi fydd yn arwain y gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys arwain/paratoi llwybrau (bydd LlCC yn helpu gyda’r paratoadau) ar gyfer yr elfen taith gerdded, a hefyd yn arwain yr elfen drafodaethau trwy holi cwestiynau, cyfarwyddo’r gwaith o gyfnewid partneriaid a grwpiau ac ati, a chadw llygad ar yr amser.
Ffioedd:
Ar gyfer pob digwyddiad, bydd yr ymgynghorydd lleol yn derbyn £50 (£25/awr) am eu gwaith yn cefnogi’r achlysur.
Byddant hefyd yn derbyn eu rhan hwy o gronfa’r cyfranogwyr am gymryd rhan yn y digwyddiad ei hun (cronfa o £200 i’w rhannu’n gyfartal rhwng y nifer o gyfranogwyr).
Am fynychu’r diwrnod hyfforddiant, bydd yr ymgynghorydd yn derbyn £100 am hanner diwrnod o waith ynghyd â chostau teithio.
Gofynion o ran amser:
Disgwylir i’r ymgynghorydd lleol fynychu un sesiwn hyfforddiant am hanner diwrnod ar 22 Ebrill er mwyn paratoi ar gyfer y rôl.
Disgwylir hefyd iddynt fynychu’r digwyddiadau, unwaith y mis ar y diwrnod penodedig, am gyfnod o ddim llai nag un awr, a dim mwy na dwy awr.
Dylai cadw mewn cysylltiad gyda LlCC gymryd oddeutu 1 awr y mis.
Bydd cyfnod y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill ac yn gorffen ym mis Awst.
Lleoliadau:
Cynhelir y digwyddiadau hyn mewn tri gwahanol leoliad ledled Cymru – Pontypridd (de Cymru), Bangor (gogledd Cymru), a Cheredigion (gorllewin Cymru).
Y lleoliadau lletyol ar gyfer y teithiau cerdded yw: Yma (Cymuned Artis) a Theatr Byd Bychan (Small World Theatre), gyda’r lleoliad ym Mangor i’w gadarnhau.
Bydd angen i’n trefnydd lleol fod wedi’i leoli yn/yn agos at Bangor neu Aberteifi.
Dyddiadau allweddol:
13 Mawrth – Galwad Agored ar agor
24 Mawrth – Dyddiad cau yr Alwad Agored
27 Mawrth – Wythnos o ‘Gyfweliadau’
22 Ebrill – Bore o hyfforddiant
Teithiau Cerdded Bangor (3ydd dydd Mawrth y mis, heblaw am fisoedd Mehefin a Gorffennaf pan fyddant ar yr 2il):
16 Mai
13 Mehefin
11 Gorffennaf
15 Awst
Teithiau Cerdded Ceredigion (dydd Mawrth olaf y mis):
30 Mai
27 Mehefin
25 Gorffennaf
29 Awst
Gofynion ar gyfer y rôl:
– Bod yn berson caredig ac agored
– Bod yn berson cyfrifol y gellir ymddiried ynddynt
– Bod yn lleol i’r ardal
– Gallu mynd gyda grŵp ar daith a drafodwyd o flaen llaw
– Gallu ysgogi sgwrs a rhyngweithio’n hyderus gyda dieithriaid
– Gallu addasu i anghenion y grŵp/ymateb i’r amgylchedd a’r ardal o’u cwmpas
– Gallu ymrwymo i’r rhan fwyaf/y cyfan o’r dyddiadau a bennwyd, ac os nad yw hynny’n bosibl, i wneud trefniadau eraill ar gyfer y dyddiadau hynny
– Gallu cyfathrebu gyda LlCC ar gynnydd y prosiect, a chyflwyno adborth diduedd
– Gallu gwneud eu ffordd eu hunain i’r lleoliad lletyol dynodedig ac yn ôl
– Bod yn hapus i gadw mewn cysylltiad â llawryddion i bwrpas darparu gwybodaeth am y digwyddiadau
Sut mae ymgeisio i fod yn un o’n hymgynghorwyr lleol?
Gofynnir i chi anfon darn byr, dim mwy na 200 gair, neu dim mwy na 2 funud o gais sain/fideo, yn manylu ar yr isod, a’i anfon i: hello@cfw.wales
– Pwy ydych chi, ac ymhle rydych chi wedi’ch lleoli?
– Beth mae eich cymuned yn ei olygu i chi?
– Pa brofiad sydd gennych o hwyluso neu o wneud gwaith wedi’i seilio ar y gymuned?
– Pam mae’r prosiect hwn yn apelio atoch chi?
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, mewn fformatau ysgrifenedig, sain a fideo. Dylech sicrhau bod y ffeiliau/dolenni a atodir yn ddilys cyn eu hanfon.
*Dylech anfon eich cais erbyn 5pm ar 24 Mawrth i’n cyfeiriad ebost: hello@cfw.wales*
Bydd ymgeiswyr yn derbyn diweddariad ar statws eu cais erbyn 27 Mawrth.
Cynhelir cyfweliadau byr, anffurfiol, yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 3 Ebrill.
Bydd pawb a gafodd gyfweliad yn cael gwybod beth yw canlyniad eu cais o fewn wythnos i’r cyfweliad.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych,
Jo a thîm Llawryddion Celfyddydol Cymru: Angharad, Becky, Krystal, Jenny a Jeremy
Cymorth Mynediad
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth gyda’ch cais, mae croeso i chi gysylltu trwy ebost: hello@cfw.wales