Inspirations Ysbridoliaethau

Inspirations

 

We don’t know precisely what we are looking for when opening this grant. The whole idea of this grant is to acknowledge that you are the expert in your niche and you know what your communities need.

We have provided here some projects that inspire us, that might inspire you. Please click the plus button to read more about each project.

Ysbrydoliaethau

Wrth agor y grant hwn, dy’n ni ddim yn gwybod yn union am beth ry’n ni’n chwilio. Y peth pwysig ynghylch y grant hwn yw cydnabod mai chi yw’r arbenigwr yn eich maes eich hun, a chi sy’n gwybod beth mae ar eich cymunedau ei angen.

Yma, rydyn ni wedi rhestru rhai prosiectau sy’n ein hysbrydoli ni ac a allai eich ysbrydoli chithau. Mae’n bosib na fydd eich prosiect chi yn ddim byd tebyg i’r rhain!
Cliciwch y botwm + i ddarllen mwy am bob prosiect.

Short Édition's Short Story Dispensers | Dosbarthwyr Straeon Byrion Short Édition

The French publishing house Short Édition has created machines that use receipt paper to print short stories and poems for free. They have been used to share the work of authors, re-imagine the short story for the modern reader, and provide entertainment for commuters.

Mae Short Édition, tŷ cyhoeddi yn Ffrainc, wedi creu peiriannau sy’n defnyddio papur derbynneb i argraffu straeon byrion a cherddi yn rhad ac am ddim. Maen nhw wedi cael eu defnyddio i rannu gwaith awduron, i ailddychmygu’r stori fer ar gyfer y darllenydd modern, ac i ddarparu adloniant i gymudwyr.

 

Click here | Cliciwch yma

Twin Made Vending Machine | Peiriant Gwerthu Twin Made

The Cardiff-based workshop-provider Twin Made have created a vending machine of craft projects.

Mae Twin Made, y darparwr gweithdai yng Nghaerdydd, wedi creu peiriant gwerthu ar gyfer prosiectau crefft.

 

Click here | Cliciwch yma

SouveNEAR Vending Machine | Peiriant Gwerthu SouveNEAR

A Kansas-based company is running a vending machine out of Kansas City airport that sells locally made art, jewellery and t-shirts.

Mae cwmni wedi’i leoli yn Kansas yn rhedeg peiriant gwerthu ym maes awyr Kansas City i werthu celf, gemwaith a chrysau-t a wnaed yn lleol.

Click here | Cliciwch yma

Come Rain or Shine Community Walks | Teithiau Cerdded Cymunedol Glaw neu Hindda

Jo Fong is running community walks around Cardiff, for all the benefits community and walks might bring (connecting with others, connecting with nature, connecting with your body).

Mae Jo Fong yn trefnu teithiau cerdded cymunedol o gwmpas Caerdydd, er mwyn cael yr holl fuddion a ddaw yn sgil cymuned a cherdded (cysylltu gydag eraill, cysylltu gyda natur, cysylltu gyda’ch corff).

Click here | Cliciwch yma

Minty's Gig Guide

Minty’s gig guide is a guide to Live Music venues in Cardiff for both audiences and artists.

Mae Minty’s Gig Guide yn rhoi arweiniad i leoliadau Cerddoriaeth Fyw yng Nghaerdydd ar gyfer cynulleidfaoedd ac artistiaid.

Click here | Cliciwch yma

The Horsebridge Art Bank | Banc Celf Horsebridge

The Horsebridge Art Bank, based in Kent, offers donated art materials and books on a “pay what you can” basis, to ensure no-one is excluded from creating because of lack of funds. They also use the materials in pay what you can artist-led workshops.

Mae Banc Celf Horsebridge, yn swydd Caint, yn cynnig deunyddiau celf a llyfrau a gyfrannwyd ar sail “talwch beth allwch chi”, i sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio rhag creu oherwydd diffyg arian. Gallant hefyd ddefnyddio’r deunyddiau mewn gweithdai “talwch beth allwch chi” dan arweiniad artistiaid.

Click here | Cliciwch yma

Open City Ticket Machine | Peiriant Tocynnau Dinas Agored

The Open City Ticket Machine is a project in Christchurch, New Zealand, in which a parking ticket machine has been repurposed to provide a “ticket” to a free thing to enjoy in the area, such as some cool street art, a nice place for a picnic, or a free venue such as the botanic gardens – all suggestions coming from locals.

Prosiect yn Christchurch, Seland Newydd, yw’r Peiriant Tocynnau Dinas Agored lle mae peiriant tocynnau parcio wedi cael eu haddasu i ddarparu “tocyn” i roi mynediad i rywbeth rhad ac am ddim i’w fwynhau yn yr ardal; mae’r rhain yn cynnwys celf stryd trawiadol, lle braf am bicnic, neu leoliad di-dâl megis y gerddi botanegol – gyda’r holl awgrymiadau’n cael eu cyfrannu gan bobl leol.

Click here | Cliciwch yma

Public Pianos | Pianos Cyhoeddus

Putting pianos in public spaces is something several different organisations have done across the UK and beyond, and it has provided musicians with a space to play publicly, and given us the opportunity for spontaneous access to live music in many public spaces.

Mae gosod pianos mewn gofodau cyhoeddus yn rhywbeth a wnaed gan nifer o sefydliadau gwahanol ledled y DU a thu hwnt; mae wedi rhoi lle i gerddorion allu perfformio’n gyhoeddus, a rhoi cyfle i ninnau gael mynediad digymell at gerddoriaeth fyw mewn sawl gofod cyhoeddus.

Click here | Cliciwch yma

Repair Café Wales | Caffi Atgyweirio Cymru

Repair Cafe Wales run pop up events to encourage use to build a future of repair and reuse, build skills, and strengthen communities.

Mae Caffi Atgyweirio Cymru’n cynnal digwyddiadau pop-yp i annog defnydd ohono er mwyn adeiladu dyfodol o atgyweirio ac ailddefnyddio, adeiladu sgiliau, a chryfhau cymunedau.

Click here | Cliciwch yma

Groundspace - Free Studio Space from Groundwork Collective | Gofod Stiwdio am ddim gan Groundwork Collective - Groundspace

Groundspace is a project to provide free studio space to allow freelancers to develop their movement practice, work with others, have extra space to record in & more.

Prosiect yw Groundspace sy’n darparu gofod stiwdio am ddim i roi lle i lawryddion ddatblygu eu hymarfer symud, i weithio gydag eraill, i gael mwy o ofod ar gyfer recordio, a mwy.

Click here | Cliciwch yma